Ecsgliwsif: Cyfle cyntaf i glywed ‘Dyma Ffaith’ gan MABLI

Dyma ni, ecsgliwsif byd eang arall i’r Selar a chyfle cyntaf i chi glywed sengl newydd y gantores ardderchog MABLI.

‘Dyma Ffaith’ ydy enw sengl nesaf y ferch o Gaerdydd, a bydd yn cael ei rhyddhau’n swyddogol ar ddydd Gwener 21 Mehefin.

Mae’n siŵr y bydd nifer sy’n darllen yn fwy cyfarwydd â MABLI dan yr enw Mabli Tudur. Mae’r cyn ddisgybl ysgol Plasmawr yn gwneud enw i’w hun ar lwyfannau Cymru ers sawl blwyddyn bellach, gan gynnwys cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Radio Cymru a Maes B yn Eisteddfod Môn 2017. Byddwch yn cofio bod honno’n flwyddyn arbennig o gryf oedd yn cynnwys  Alffa, Eadyth a Gwilym ar lwyfan y ffeinal hefyd.

Ers hynny mae Mabli wedi gadael Ysgol Plasmawr a symud i’r brifysgol yn Llundain, gan ddechrau gwneud enw i’w hyn ar lwyfannau ym mhrifddinas Lloegr hefyd.

Mae’r Selar wedi bod yn cadw golwg agos ar ddatblygiad gyrfa MABLI a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydyn ni’n falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed ‘Dyma Ffaith’ – mwynhewch:

Mae’r sengl yn cael ei rhyddhau gan label JigCal Mei Gwynedd ar 21 Mehefin.

Bydd cyfle i ddal MABLI’n perfformio ar lwyfan Tafwyl ar benwythnos rhyddhau’r sengl – nid yn unig ar ben ei hun ar ddydd Sadwrn 22 Mehefin, ond hefyd gyda’r grŵp Catsgam y diwrnod canlynol, sef dydd Sul 23 Mehefin.