Ecsgliwsif: Cyfle cyntaf i glywed EP newydd Papur Wal

Dyma ni gyfeillion – yn ecsgliwsif i ddarllenwyr Y Selar, dyma’r cyfle cyntaf yn y byd i chi allu gwrando ar EP newydd Papur Wal, Lle yn y Byd Mae Hyn?, sy’n cael ei ryddhau ar label Recordiau Libertino ar 29 Mawrth.

Mae Y Selar wedi bod yn sgwrsio gyda gitarydd a chanwr y band, Ianto Gruffudd, ynglŷn â’r EP a gallwch ddarllen y cyfweliad yn llawn ar wefan Y Selar nawr.

Rhyddhawyd y sengl ‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’ gan y grŵp wythnos diwethaf ar 8 Mawrth, ond dyma’r cyfle cyntaf i glywed yr EP yn llawn.

Felly, ciciwch nôl, ymlaciwch, ffrydiwch a mwynhewch synau Papur Wal….