Ecsgliwsif: Cyfle cyntaf i weld fideo Eädyth x Shamoniks

Mae Y Selar yn falch iawn i gynnig ecsgliwsif arall i chi ddarllenwyr lwcus, sef y cyfle cyntaf i weld fideo newydd Eädyth x Shamoniks.

Cyhoeddwyd wythnos diwethaf bod albwm y prosiect cydweithredol rhwng y gantores o Ferthyr, Eädyth, a’r cynhyrchydd, Shamoniks – sef Sam Humphreys o Calan, Pendevig, NoGood Boyo – allan ar 2 Awst.

Fel tamaid i aros pryd, mae eu sengl ‘I Fewn’ allan ar label UDISHIDO heddiw!

Ac i gyd-fynd â’r sengl, maen nhw hefyd wedi cyhoeddi fideo ardderchog sydd i’w weld am y tro cyntaf isod! Mwynhewch…