Ecsgliwsif: Dangosiad cyntaf fideo ‘I Dy Boced’ gan Thallo

Ddydd Gwener diwethaf, 26 Ebrill, fe ryddhaodd Thallo eu sengl newydd ardderchog, ‘I Dy Boced’.

Heddiw,  mae’r Selar yn falch iawn i allu cynnig ecsgliwsif byd eang i chi ddarllenwyr lwcus, sef dangosiad cyntaf o’r fideo ar gyfer y sengl.

Thallo ydy prosiect y gantores amryddawn, Elin Edwards. O Benygroes yn wreiddiol, mae Elin yn byw yn Llundain ar hyn o bryd ac yn ysgrifennu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Er yn enw cymharol newydd, mae Thallo wedi dal sylw nifer o wybodusion cerddoriaeth Cymru gan gynnwys y cyflwynwyr Huw Stephens (Radio 1 / Radio Cymru) ac Adam Walton (Radio Wales).

Fideo tywyll

Cafodd fideo ‘I Dy Boced’ ei ffilmio gan Anxious Club a Jack Koçak, sy’n cynhyrchu fideos tywyll. Yn ôl Elin mae hynny’n briodol gan fod neges benodol iawn i’r fideo.

“Wnaethom ni drio creu fideo allan o cliche ‘nightmares’ a chyfleu darlun swreal i ddangos persbectif gwahanol ar realiti drwy lygaid iselder” eglura’r gantores.

“Mae’r fideo’n dilyn thema y geiriau – cael fy llusgo o realiti, ond mewn ffordd llythrennol iawn!

“Mae’r syniad yna hefyd wedi’i gymysgu efo hunllefau cliché yn y fideo, fel y dannedd yn disgyn allan.”

Gadael marc

Ac mae’n ymddangos fod y broses o ffilmio’r fideo wedi gadael ei farc ar Elin…yn llythrennol!

“Roedd gen i dipyn o gleisiau ar ôl cael fy llusgo drwy bob man, ond roedd o’n gymaint hwyl i’w ffilmio.

“Roeddwn i eisiau creu fideo swreal a thywyll felly gweithiais i efo Anxious Club sy’n cynhyrchu fideos tywyll a chreadigol.”

Bydd cyfweliad gydag Elin yn ymddangos fan hyn, ar wefan Y Selar, yn fuan iawn ond am y tro mwynhewch fideo ‘I Dy Boced’.

Rhyddheir ‘I Dy Boced’ yn annibynnol gan Thallo, ac mae modd ffrydio a lawr lwytho o’r llwyfannau digidol arferol.