Egwyl i Ŵyl Nôl a Mlan

Mae trefnwyr Gŵyl Nôl a Mlan yn Llangrannog wedi cyhoeddi eu bod nhw am gymryd egwyl o gynnal yr ŵyl yn 2019.

Sefydlwyd yr ŵyl ddeng mlynedd yn ôl, ac mae wedi ei chynnal yn flynyddol ers hynny ym Mhentref glan môr Llangrannog yn Ne Ceredigion. Mae’r ŵyl wedi tyfu’n raddol dros y blynyddoedd, gan ddenu miloedd i’r pentref bach dros y blynyddoedd diwethaf.

Meddai’r trefnwyr ar gyfrif Twitter yr ŵyl eu bod am gymryd blwyddyn o egwyl yn 2019, gan gymharu gyda’r hyn mawr gŵyl Glastonbury yn gwneud nawr ac yn y man, gyda thafod yn eu boch. Er hynny, mae awgrym clir yn y neges y bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eto yn 2020.