Mae Worldcub (CaStLeS gynt) wedi disgrifio’r profiad o berfformio yng Nghanada ddechrau mis Hydref fel un arbennig iawn i’r grŵp.
Cafodd y grŵp gyfle i chwarae yng ngŵyl BreakOut West yn Yukon, Canada fel rhan o bartneriaeth gyda FOCUS Wales, sydd wedi bod yn gweithio gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO.
BreakOut West ydy prif ddigwyddiad arddangos y diwydiant cerddoriaeth yng Nghanada, yn cael ei chynnal gan Western Canadian Music Alliance.
Mae’n denu cynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth o bedwar ban byd, pob blwyddyn mae’r digwyddiad cyffrous hwn yn cael ei gynnal mewn rhanbarth gwahanol yng Ngorllewin Canada yn eu tro.
Eleni, cynhaliwyd y digwyddiad yn Whitehorse, Yukon rhwng 2 a 6 Hydref. Diolch i’r cysylltiad gyda FOCUS Wales, gwahoddwyd y bandiau o Gymru, Worldcub a Baby Brave, i berfformio yn BreakOut West eleni.
Eira ac Eirth
Fel rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO’, trefnwyd y daith i Worldcub o Eryri i gyfarfod â cherddorion a ffigyrau amlwg yng nghymuned Carcross/Tagish First Nation yn Yukon.
“Wedi siwrne ben bore trwy eira trwm a chael cip ar eirth brithion, fe’n croesawyd â gweddi gan yr Henadur Geraldine James wrth gyrraedd Carcross, gyda Seremoni Darthu yn dilyn” meddai Dion o’r band wrth Y Selar.
“Gan sefyll mewn cylch, gwahoddwyd pawb i gyflwyno’u hunain. Soniodd yr Henadur am eu brwydr i achub eu treftadaeth a’u hiaith rhag difodiant. Fe gaethon ni gyfle i sôn am hanes yr iaith Gymraeg ac fe sylwodd bawb ar y cymariaethau.
“Roedd hi’n fraint i rannu’r llwyfan i berfformio caneuon a rhannu straeon am ein hieithoedd gyda’r llwyth. Gwych oedd gweld pa mor angerddol o ymroddedig oedden nhw dros y frwydr am eu treftadaeth a’u hiaith.
“Mae gwerth cannoedd o flynyddoedd o hanes ynghlwm â’r ieithoedd hyn sydd angen eu perchnogi ac maen nhw’n dibynnu ar hyn am eu bodolaeth – dylid eu clywed mewn tafarndai, caffis ac ar y strydoedd. Fe ddysgon ni gryn dipyn o’r diwrnod ac mae llond trol o straeon ganddo ni i’w hadrodd nôl adre.
Un ar ôl
Un o uchafbwyntiau’r daith i’r grŵp oedd rhannu llwyfan gyda cherddor, a’r unig un sy’n gallu siarad yr iaith frodorol yn yr ardal, Tlingit.
“Roedden ni mor ffodus i gael ymweld â’r Ganolfan Addysgu yn Carcross, dysgu am hanes y bobl yn y gymuned ac ymuno yn eu traddodiadau.
“Yn dilyn ni ar y llwyfan roedd Gary Johnson, wedi’i wisgo mewn dillad traddodiadol, ac yr unig un sy’n dal i allu siarad yr iaith frodorol.
“Rhoddodd gwpl o wersi i ni ynglŷn â sut i ynganu geiriau a brawddegau, cyn mynd ymlaen i berfformio i ni.
“Mae ein diolch yn fawr i FOCUS Wales a BreakOut West am drefnu hyn a’n cludo yno… ac yn ôl, yn fyw!”
Roedd y daith yn rhan o gyfres o gyfleoedd arddangos rhyngwladol a gyflwynir gan FOCUS Wales mewn partneriaeth â Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Yn ogystal â thaith Worldcub i Ganada, mae FOCUS Wales wedi trefnu i Chroma berfformio yn ‘MMVV’ yng Nghatalwnia yn gynharach ym mis Medi, a bydd 9Bach yn chwarae yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol ‘LUCfest’ yn Tainan, Taiwan rhwng 8 – 10 Tachwedd. Bydd Adwaith hefyd yn chwarae yng ngŵyl ‘M for Montreal’ yn Quebec, Canada rhwng 20 a 23 Tachwedd fel rhan o’r cynllun.
Prif Lun: “Styc yn yr eira ar y ffordd i weld y llwyth brodorol, roedd hyn just cyn i Carwyn gyrraedd yn yr ail gar i ddweud fod nhw wedi gweld arth Grizzly lawr y lôn”