Bydd modd prynu nifer o eitemau cerddorol fel rhan o ocsiwn tawel sy’n cael ei chynnal er budd elusen 19~’19.
Mae eitemau’r ocsiwn yn cynnwys geiriau caneuon Yws Gwynedd, Dafydd Iwan, Huw Chiswell a Gwyneth Glyn, ynghyd â gitâr ‘resonator’ Hudson sy’n rhodd o eiddo personol Emyr Huws Jones.
Eurig a Bethan Roberts sy’n gyfrifol am yr elusen sy’n anelu at godi £3,000 i gefnogi timau gofal Dwys Newydd-anedig a gofal Lliniarol i Blant yn ysbytai Singleton a Glangwili er cof am eu merch Anwen a fu farw llynedd yn 19 wythnos oed.
Mae’r teulu wedi bod yn cymryd rhan mewn 19 o heriau yn ystod 2019 a bydd gig ac ocsiwn arbennig ar 15 Tachwedd 2019. Mae Eurig yn aelod o’r grŵp Brigyn.