Elis Derby yn rhyddhau sengl newydd, ‘Yn Y Bôn’

Mae sengl newydd Elis Derby, ‘Yn Y Bôn’, yn cael ei rhyddhau heddiw, dydd Gwener 17 Mai.

Dyma drydedd sengl Elis ers iddo ddod â band at ei gilydd, yn dilyn y sengl ddwbl ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd / Myfyrio’ a ‘Prysur yn Gneud Dim Byd’. Mae’n ei disgrifio fel “sŵn mwy amrwd” o’i gymharu â’r senglau blaenorol, gyda “dylanwad slacker rock” yn perthyn iddi. Unwaith eto, recordiodd Elis a’r band y gân yn Stiwdio Drwm, gydag Ifan Emlyn yn cynhyrchu.

Bydd ‘Yn Y Bôn’ yn cael ei rhyddau ar label annibynnol Elis, sef Recordiau Hufen. Dechreuodd y label i ryddhau ei gynnyrch ei hun, ond mae’n gobeithio gallu datblygu’r label i gynnwys artisitiaid eraill yn y dyfodol.

Yn ôl Elis, dyma’r sengl olaf iddo ei rhyddhau am y tro, gan ei fod yn bwriadu dechrau recordio albwm ddiwedd mis Awst. Yn y cyfamser, mwynhewch ‘Yn Y Bôn’, sydd allan heddiw ar bob platfform ffrydio!

Geiriau: Llew Glyn Williams