Roedd llwyddiant i Lleuwen, VRï a Gwilym Bowen Rhys ymysg eraill yn noson Wobrau Gwerin Cymru neithiwr.
Dyma’r tro cyntaf i’r gwobrau gael eu cynnal, a Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru oedd lleoliad y digwyddiad.
VRï oedd llwyddiant mawr y noson wrth iddyt gipio dwy wobr am ‘Y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau’ a’r ‘Albwm Orau’ am y record Hir Tŷ Ein Tadau.
Cipiodd Gwilym Bowen rhys deitl yr ‘Artist Unigol Gorau’, gyda Calan yn cael eu coronni’n ‘Grŵp Gorau’.
A’i halbwm diweddaraf, Gwn Glân Beibl Budr, yn derbyn canmoliaeth eang, doedd dim syndod gweld Lleuwen ymysg yr enillwyr – y trac ‘Bendigeidfran’ o’r albwm hwnnw’n cipio’r wobr am y ‘Gân Gymraeg Wreiddiol Orau’.
Dyma’r rhestr enillwyr yn llawn:
Y Trac Offerynnol Gorau: ‘Dawns Soïg’ – Alaw
Y Gân Saesneg Wreiddiol Orau: ‘Here Come the Young’ – Martyn Joseph
Yr Artist Unigol Gorau: Gwilym Bowen Rhys
Y Gân Gymraeg Draddodiadol Orau: ‘Ffoles Llantrisant’ – VRï
Y Perfformiad Byw Gorau: Pendevig
Y Gân Gymraeg Wreiddiol Orau: ‘Bendigeidfran’ – Lleuwen
Yr Artist/Band Gorau Sy’n Dechrau Dod i’r Amlwg: The Trials of Cato
Y Grŵp Gorau: Calan
Yr Albwm Orau: Tŷ Ein Tadau – VRï
Y Wobr Gwerin: Huw Roberts