Mae’r grŵp gwerin ifanc o Ogledd Cymru, Tant, wedi ei henwebu ar gyfer hefyd gwobr yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.
Mae’r grŵp wedi cyrraedd y rhestr fer o wyth yng nghategori’r Band Gwerin Ifanc Gorau eleni
Mae tri grŵp Cymreig arall wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau gwahanol, sef VRï, The Trials of Cato a Gwilym Bowen Rhys.
Mae’r delynores o Gymru Catrin Finch hefyd ar ddwy restr fer fel rhan o’i deuawd gyda Seckour Keita.
‘Sypreis neis’
“Er mwyn cael ein henwebu i’r BBC Radio 2 young folk awards roedd rhaid i ni yrru dau drac i mewn erbyn y dyddiad cau, sef dechrau Awst” eglurodd Angharad Butler, telynores Tant.
“Roedd yn gyfnod prysur iawn i ni ar y pryd, rhwng gigio yn Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Tŷ Gwerin [Eisteddfod Genedlaethol], felly erbyn i ni glywed nôl roeddan ni wedi anghofio popeth, felly roedd o’n sypreis neis.”
Mae’r grŵp yn un o restr o 8 band o ledled Prydain sydd wedi eu henwebu am y wobr, a hwy ydy’r unig grŵp o Gymru ymysg rhain, ac yr unig un fydd yn canu yn y Gymraeg wrth gwrs.
Byddan nhw nawr yn mynd i Fanceinion ar 15 Hydref, ynghyd â’r saith arall ar y rhestr, ar gyfer cwrs arbennig ac i gael eu tiwtora gan rai o fawrion y byd gwerin o bob rhan o’r byd.
Gyda’r hwyr ar y noson honno byddan nhw a’r bandiau eraill yn perfformio yn HOME, Manceinion gan gystadlu’n erbyn ei gilydd. Mae modd prynu tocynnau ar gyfer y noson hon.
Balch o’r profiad
“Y noson wedyn, 16 Hydref, byddwn ni’n mynd i’r BBC Radio 2 folk awards ble byddan nhw’n datgan yr enillydd” meddai Angharad.
“Da ni’n edrych ymlaen i weld pwy fydd yn ennill y gwobrau eraill yno hefyd gan fod VRï a Trials of Cato wedi cael eu henwebu eleni – roedd yn braf bod yn yr un categori â nhw yng Ngwobrau Gwerin Cymru ddechrau’r flwyddyn.”
Roedd Tant, ynghyd â VRï a The Trials of Cato ar restr fer categori ‘Band Gorau Sy’n Dechrau Dod i’r Amlwg’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru a gynhaliwyd am y tro cyntaf ym mis Ebrill eleni.
“Beth bynnag fydd y canlyniad, rydan ni mor falch o gael y profiad o berfformio yn y Gymraeg tu allan i Gymru” ychwanegodd Angharad.
O ran yr artistiaid Cymreig eraill, mae Gwilym Bowen Rhys ar restr fer categori’r ‘Canwr Gwerin Gorau’; VRï ar restr fer y categori ‘Can Draddodiadol Orau’; a The Trials of Cato ar restr fer categori ‘Albwm Gorau’.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad yn Bridgewater Hall, Manceinion ar 16 Hydref.
Dyma gyfweliad fideo Y Selar gyda Tant ychydig dros flwyddyn nôl sy’n trafod ychydig am gefndir y grŵp: