Enwebwch ar gyfer Gwobrau’r Selar

Credwch neu beidio, mae’r amser yna o’r flwyddyn wedi cyrraedd eto lle rydan ni’n dechrau meddwl am Wobrau’r Selar!

Ac mae cyfle i ddylanwadu ar bwy sy’n cael eu cynnwys ar y rhestrau hir eleni trwy enwebu ar gyfer y categorïau amrywiol.

Er mwyn ein helpu i lunio rhestrau hir ar gyfer y categorïau i gyd, rydan ni’n galw arnoch chi ddarllenwyr ffyddlon i gynnig enwebiadau cyn 27 Tachwedd. Gallwch wneud hynny trwy lenwi’r ffurflen sydd ar wefan Y Selar nawr.

Cofiwch mai gwobrwyo stwff cerddorol y flwyddyn galendr 2019 ydy’r nod, felly dim ond cynnyrch sydd wedi’i ryddhau gyntaf yn ystod 2019 sy’n gymwys. Felly, er enghraifft, er fod ‘Datgysylltu’ ar albwm Sbwriel Gwyn Los Blancos a ryddhawyd yn 2019, fydd hi ddim yn gymwys ar gyfer categori ‘Cân Orau’ gan ei bod hi eisoes wedi ei rhyddhau fel sengl yn ystod 2018.

Bydd holl gynnyrch y flwyddyn (albyms, fideos, EPs) ar y rhestrau hir sy’n mynd i’r bleidlais gyhoeddus, ond rydan ni’n arbennig o awyddus i chi enwebu ar gyfer y categorïau eraill fel Digwyddiad Byw, Band Gorau a Seren y Sin.

Mae Cân Orau hefyd yn un anodd i lunio rhestr hir ar ei chyfer gan fod jyst cymaint o ddewis o ganeuon gwych!

Mae manylion llawn y gwobrau, a beth sy’n gynnwys yng nghanllawiau Gwobrau’r Selar.

Y cwestiwn sy’n codi’n aml ydy pam fod angen llunio rhestrau hir? Wel, ar un pryd bu i ni adael pob categori’n hollol agored, ac yn anffodus cafodd nifer o bleidleisiau eu gwastraffu wrth i bobl fwrw pleidlais dros bethau oedd ddim yn gymwys. Mae profiad y gorffennol hefyd yn dangos bod rhoi dewis i bobl yn ei gwneud hi’n haws i chi bleidleisio – ac rydan ni am weld cymaint â phosib o bobl yn bwrw pleidlais.

Penwythnos 14-15 Chwefror fydd dyddiad Gwobrau’r Selar y tro yma – nodwch hwn yn eich dyddiaduron. Bydd mwy o wybodaeth am y digwyddiad byw, a sut i brynu tocynnau, yn cael eu cyhoeddi’n fuan iawn.