EP Hyll ar y ffordd

Bydd y grŵp ifanc o Gaerdydd, Hyll, yn rhyddhau eu EP newydd ar 12 Gorffennaf.

‘Rhamant’ ydy enw’r casglaid byr newydd sy’n cael ei ryddhau gan label Recordiau JigCal.

Dyma fydd ail EP Hyll, ac yn ôl y label mae’n gasgliad o draciau sy’n ’darganfod teimladau, emosiynnau a phroblemau dynion ifanc a gwirion’. Mae’n debyg bod y pum trac wedi’u hysgrifennu gyda’r bwriad i fod mor onest ac agored â phosib.

Casglu Sbwriel Hyll

Grŵp pedwar aelod o Gaerdydd ydy Hyll sef Bedwyr ab Ion, Iwan Williams, Owain Jones a Jac Evans. Gobaith y grŵp ydy y gall pobl wrando ar yr EP ac uniaethu â’u profiadau.

Mae un trac o’r EP, ‘Dyn Sbwriel’ eisoes ar gael i’w chlywed ar wefan Clwb Ifor Bach ers wythnos diwethaf.

Recordiwyd a chynhyrchwyd yr EP yn Stiwdio’s JigCal gan Mei Gwynedd. Bydd yn cael ei ryddhau’n ddigidol yn yr holl fannau arferol.

Cynhelir gig lansio’r EP newydd ar y dyddiad rhyddhau, 12 Gorffennaf, yng nghartref ysbrydol y band, sef Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd. Bydd y grŵp Haze yn cefnogi.

Roedd Hyll yn perfformio yng Ngŵyl Tafwyl dros y penwythnos, a bydd cyfle i’w gweld yn chwarae yng Ngŵyl Hub yng Nghaerdydd rhwng 23 a 25 Awst.

Dyma ‘Cyn Sbwriel’: