Bydd y gantores ifanc o Geredigion, Ffion Evans, yn rhyddhau ei EP cyntaf ddechrau mis Rhagfyr.
‘Ar Ben Fy Hun’ ydy enw’r casgliad byr sy’n cael ei ryddhau’n swyddogol ar 6 Rhagfyr gan label Recordiau Bwca, ac yn ôl y label, mae’r EP yn llawn o ganeuon personol.
Bydd chwech o draciau ar y casgliad i gyd, gan gynnwys ‘Byd yn Dod i Ben’ a enillodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Ysgoloriaeth Geraint George yn Eisteddfod yr Urdd 2019 am waith cyfathrebu ar bwnc amgylcheddol.
Yn ogystal â phump trac Cymraeg, mae un trac Saesneg ar yr EP sef ‘On My Own’ sy’n gyfieithiad o deitl y casgliad.
Natur yn ysbrydoli
Dyma EP cyntaf Ffion Evans fel artist unigol, ond bydd yn gyfarwydd i rai fel aelod o’r grŵp, Bwca – band pum aelod o’r canolbarth.
Mae Bwca wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn recordio eu halbwm cyntaf yn Stiwdio Sain gydag Ifan ac Osian o Candelas, yn ogystal â gigio’n rheolaidd dros yr haf.
Bwriad EP Ffion yw cyfathrebu profiadau a theimladau personol gyda’r gobaith o uniaethu a chysuro’r gwrandawyr.
Caiff Ffion ei hysbrydoli gan natur gan ddefnyddio delweddau amgylcheddol mewn sawl cân, megis yr haul, y môr a stormydd.
Ffion ei hun ysgrifennodd yr holl ganeuon a hi sy’n eu canu. Recordiwyd a chymysgwyd y caneuon yn Stiwdio Bing ym Mro Ddyfi gan Rhydian Meilir.
Sara Lleucu, dylunydd talentog ac un o ffrindiau gorau Ffion, sy’n gyfrifol am greu gwaith celf yr EP.
Roedd Ffion yn perfformio yn Niwrnod Dinas yr Arcêd Caerdydd ar yr 16 Tachwedd ac mae’n chwarae eto yn Ffair Nadolig y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ar y 5 Rhagfyr, gyda chopïau o’r CD ar gael i’w prynu yn y gigs hyn.
Bydd modd cael gafael ar ganeuon yr EP yn ddigidol yn yr holl fannau arferol hefyd.