Fersiwn newydd o drac HMS Morris

A hwythau wedi cyhoeddi’r trac yn wreiddiol ar eu hail albwm, Inspirational Talks, maes HMS Morris yn paratoi i ryddhau dwy fersiwn newydd o ‘Illuminate Me’ ar 8 Mawrth.

Mae un o’r fersiynau newydd yn un arbennig ar gyfer radio, a’r llall yn ail-wampiad newydd sbon gan y cerddor a chynhyrchydd electroneg uchel ei barch, R. Seiliog.

Mae’r trac yn anthem anferth, lachar ar yr albwm. Testun ‘Illuminate Me’ yw yr ysfa i gyrraedd eich llawn potensial, y teimlad rhwystredig y gallai popeth ynoch chi ddod at ei gilydd yn union y ffordd iawn ar yr union amser iawn a’ch ail-greu chi fel y fersiwn perffaith o’ch hunan – ond eto fod hyn mewn gwirionedd yn agos at amhosibl.

Mae prif leisydd HMS Morris, Heledd Watkins, am ei ‘lliwiau’, yr amrywiaeth di-rif o dueddiadau a photensialau yn ei meddwl a’i chorff, gan erfyn ar y rhai cywir i ddod i’r wyneb a chyfuno i’w gwneud y math o berson sy’n serennu ar y llwyfan mawr, yn llwyddo mewn cyfweliad am swydd, neu’n dominyddu’r creadur sy’n meiddio ei chroesi.

Bu i R. Seiliog ryddhau ei drydydd albwm, Megadoze, ym mis Tachwedd llynedd ac wrth ymdrin ag ‘Illuminate Me’ mae’n torri’r trac i ddim ond dwy elfen sef y synth a llais cefndirol rhyfeddol Sam Roberts o’r grŵp.

Label Bubblewrap sy’n gyfrifol am ryddhau’r sengl ac yn ôl y label bydd HMS Morris yn gweithio ar ddeunydd newydd yn ystod 2019 gan archwilio tiriogaethau cerddorol newydd. Mae disgwyl gweld ffrwyth eu llafur yn ystod 2020.

Yn y cyfamser mae digon o gyfleoedd i weld HMS Morris yn perfformio’n fyw yn y dyfodol agos, gan gynnwys dros y penwythnos, gyda mwy o ddyddiadau i’w cyhoeddi’n fuan.

Gigs HMS Morris:

1 Mawrth: Theatr Clwyd,  Yr Wyddgrug / Mold
2 Mawrth: Gig Rhyng-gol Gig, Undeb Myfyrwyr Abertawe
12 Mawrth: The Social, Llundain
17 Mai: Focus Wales,  Wrecsam
25 Mai:  Gwyl y ‘Big Retreat’, Lawrenny, Sir Benfro

Dyma fersiwn anhygol HMS Morris o gân Y Cyrff, ‘Crafanc’, fel rhan o’u set ar nos Wener Gwobrau’r Selar eleni: