Mae cyfres gerddoriaeth newydd S4C, ‘Lŵp’, wedi cyhoeddi fideo o’r grŵp o Ddyffryn Conwy, Omaloma, yn perfformio eu sengl ‘Dywarchen’ ar eu sianel YouTube.
Mae’r fideo wedi’i ffilmio yn folt hen fanc Midland/HSBC ar sgwâr Llanrwst, sydd bellach yn gartref i Fenter Iaith Conwy.
Mae fideos Omaloma a Serol Serol wedi eu ffilmio yn lofft y banc yn gynharach eleni, ac efallai y byddwch yn cofio’r Facebook Live ar dudalen Y Selar o lansiad dwbl llyfr Y Cyrff, ac ail-gyhoeddiad y record ‘Yr Atgyfodi’ gan y grŵp chwedlonol o Lanrwst, yno wythnos cyn Eisteddfod Llanrwst.
Mae’r fideo newydd gan Omaloma wedi ei ffilmio y y folt sydd ar lawr gwaelod (neu yn y selar!) yr hen fanc.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Dywarchen’: