Fideo newydd Mr Phormula

Mae’r rapiwr a bitbocsiwr ardderchog, Mr Phormula, wedi cyhoeddi fideo newydd difyr iawn ar ei sianel YouTube.

Mr Phormula ydy enw artist Ed Holden, ac ar ddechrau’r fideo, mae’r cerddor yn cynnig pwt o esboniad ynglŷn â syniad y prosiect. Mae’n ymweld â Chwarel Croesor er mwyn casglu nifer o synau i’w samplo er mwyn creu curiad ar gyfer y gân sy’n defnyddio chwareli fel pwnc testun.

Mae’r canlyniad, sef ‘Y Chwarel : The Quarry’, yn drawiadol, yn unigryw ac yn brawf arall o ddyfeisgarwch y cerddor.

“Fel artist, dwi’n teimlo fod o’n bwysig i arbrofi gyda technegau newydd” meddai Ed.

“Dwi o hyd yn trio meddwl am brosesau newydd ac unigryw i greu cerddoriaeth.”

“Dwi di gwylio rhai fideos yn ddiweddar sydd yn defnyddio amgylchedd i greu miwsig, a nes i ffeindio hyn yn ddiddorol a chael fy ysbrydoli i greu rhywbeth tebyg. Diwrnod wedyn nes i bacio pob dim o’n i angen yn y ryc sac ac awê fyny at Chwarel Croesor. Profiad gwych! Yn sicr bydd ‘na fwy yn fuan!”

Dyma’r fideo: