Fideo ‘Sinema’ gan Achlysurol

Mae’r grŵp o Arfon, Achlysurol, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu sengl ddiweddaraf, ‘Sinema’, ar-lein.

Rhyddhawyd y sengl yng nghanol mis Tachwedd ar label JigCal, ac roedd cyfle i weld y fideo fel rhan o wythnos ffilm y Galeri yng Nghaernarfon wedi hynny.

Bellach mae cyfle i bawb weld y fideo ar-lein ar sianel YouTube y band.

Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Gwion Tegid, ac aelodau’r grŵp gydag Ifan Emyr, drymiwr Achlysurol, yn gyfrifol am y gwaith golygu.