Fideo ‘Sŵn y Glaw’ gan Sywel Nyw

Mae cyfres deledu Lŵp ar S4C wedi cyhoeddi fideo o sengl ddiweddaraf Sywel Nyw ar eu Sianel YouTube.

Sywel Nyw ydy prosiect unigol prif ganwr a gitarydd Yr Eira, Lewys Wyn.

Rhyddhawyd ei sengl Gymraeg gyntaf, ‘Sŵn y Glaw’, ar ddydd Gwener 1 Tachwedd. Roedd eisoes wedi rhyddhau un sengl Saesneg ym mis Mehefin eleni, sef ‘Jumping Fences’.

Mae fideo annibynnol ar gyfer y sengl eisoes wedi’i gyhoeddi gan y cerddor ond nawr mae fideo ar gyfer y fersiwn sesiwn arbennig wedi ymddangos.

Mae’r fideo newydd ar gyfer y gân wedi’i ffilmio mewn safle bws yn Ninorwig, gyda golygfeydd yn edrych dros Deiniolen, Llanberis a Chaernarfon.

Ac mae’n debyg bod eisteddle’r orsaf yn un go wahanol fel yr eglura’r cerddor.

“Mainc capel sydd yn y bus stop yn ddiddorol iawn” eglura Lewys.

“Ond dwi’m yn siŵr pa un!”

Andy Pritchard o Lŵp sydd wedi cyfarwyddo a ffilmio’r fideo.

Yn ôl Lewys mae ambell sengl newydd ar y gweill ganddo dan yr enw Sywel Nyw, gyda’r gobaith o’u rhyddhau yn y flwyddyn newydd.