Fideo ‘Tafla’r Dis’ Mei Gwynedd

Mae fideo newydd ar gyfer y sengl ‘Tafla’r Dis’ gan Mei Gwynedd wedi ymddangos ar-lein wythnos diwethaf, gan ennyn ymateb arbennig o dda.

Rhyddhaodd Mei y sengl ddiwedd mis Tachwedd fel rhagflas o’i EP newydd o’r un enw sydd bellach wedi’i ryddhau hefyd, a nawr mae fideo animeiddiedig wedi ymddangos i roi hwb pellach i’r trac.

Ac efallai bydd y person sy’n gyfrifol am greu’r animeiddiad ardderchog ar gyfer y fideo’n gyfarwydd i chi sy’n dilyn trydar ar gerddoriaeth Gymraeg ar Twitter.

Merch o’r enw Lucy Jenkins sy’n gyfrifol am greu’r fideo unigryw, ond mae’n debyg y bydd nifer yn fwy cyfarwydd â’i henw Twitter, sef ‘Drawn to Ice Hockey’.

Ymarfer

Ac fel yr eglurodd Lucy wrth sgwrsio gyda’r Selar, mae hanes difyr i’r fideo.

“Es i nôl at animeiddio llynedd ar ôl peidio gwneud am gwpl o flynyddoedd, ac o’n i’n moyn ymarfer gwneud lip synching” meddai.

“Felly o’n i’n meddwl bydde fe’n syniad da i edrych at gerddoriaeth am y sain.”

“Fi’n ffan mawr o gerddoriaeth Mei ac o’n i’n ei nabod e cyn dechrau’r fideo. Felly o’n i’n meddwl bydde’n syniad cŵl i animeiddio rhan o ‘Tafla’r Dis’ i ymarfer animeiddio a trio impresso fe tipyn bach, haha.”

“Nes i benderfynu peidio dweu’tho fe yn ystod y broses o greu’r clip cynta…cyn rhoi’r clip ar Twitter ac Instagram fi ac yn ffodus, odd Mei yn rili hoffi fe.”

“Nath e ofyn i fi os o’n i moyn neud fersiwn llawn, felly dyna beth nes i.”

Mwy i ddod

“O’n i’n mwynhau cymryd y geiriau a’r gerddoriaeth ac adeiladu ar hwna wedyn i ddod â dimensiwn arall iddo fe.”

“Odd yr overall theme yn dis, felly nes i drio ffitio hwna mewn ble bynnag o’n i’n gallu.”

Yn sicr mae’r gwaith gorffenedig yn werth ei weld, ac yn ôl Lucy mae’n bwriadu gwneud rhagor o fideos tebyg yn y dyfodol.