Fideo ‘Twti Ffrwti’ 

Mae fideo ar gyfer sengl newydd Kim Hon, ‘Twti Ffrwti’, wedi’i gyhoeddi ar gyfryngau digidol Ochr 1.

Rhyddhawyd sengl gyntaf y grŵp newydd yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 31 Mai, ac i gyd-fynd â hynny mae’r fideo wedi’i ryddhau ar sianel YouTube Ochr 1 a thudalen Facebook Hansh.

Kim Hon ydy prosiect newydd canwr Y Reu, Iwan Fôn ynghyd â’i gyfaill Iwan Llŷr, sy’n chwarae’r gitar ac allweddellau. Mae cerddorion eraill yn ymuno ar gyfer eu perfformiadau byw, gan gynnwys hwnnw yng ngŵyl Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach wythnos diwethaf.

Disgrifir Kim Hon fel ‘band sy’n llwyddo i gyfuno swagger celf/electro/pync LCD Soundsystem gydag agwedd pop wych Super Furry Animals. Band sydd â’r un creadigrwydd budr â The Fall a geiriau sy’n berffaith i’w paentio fel sloganau dros Gymru a thu hwnt.’

Mae Kim Hon wedi ymuno a stabal Recordiau Libertino, ac yn ôl y label, mae ‘Twti Ffrwti’ yn anthem llawn curiadau cynhyrfus a slacyr gyda dylanwad bandiau electroneg Cymraeg cythryblus fel Tŷ Gwydr a Traddodiad Ofnus yn amlwg.

Mwynhewch y fideo isod: