Yng nghanol gwallgofrwydd tymor a gwyliau, fe allech chi fod wedi colli’r ffaith bod Carwyn Ellis wedi rhyddhau fideo newydd i gyd-fynd ag un o ganeuon ei brosiect diweddaraf, Rio ’18, yn ddiweddar.
Mae Carwyn yn fwyaf adnabyddus yng Nghymru am ei fand Colorama, ond hefyd wedi bod yn gyfrifol am nifer o brosiectau cerddorol eraill, gan hefyd chwarae fel cerddor sesiwn i enwau mawr gan gynnwys The Pretenders ac Edwyn Collins.
Prosiect cerddorol diweddaraf Carwyn ydy Rio 18, lle mae wedi mynd ati i gyd-weithio gyda nifer o gerddorion gorau Brasil a De America i recordio albwm reit arbennig.
Rhyddhawyd y record hir, ‘Joia’, ar label Banana and Louie Records nôl ym mis Mehefin eleni, ac mae sgwrs gyda Carwyn am y casgliad yn rhifyn diweddaraf Y Selar sydd allan yn y byd mawr rŵan, ac ar gael i’w bori ar-lein.
Gwerth nodi bod fersiwn feinyl hyfryd o’r albwm sydd ar gael i’w archebu ar safle Bandcamp y prosiect.
Fideo a thaith
Trac agoriadol yr albwm ydy ‘Unman’, ac mae fideo ar gyfer y gân wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube Carwyn Ellis a Rio 18.
Mae’r fideo wedi’i osod yn Rio ar ddiwrnod glawog, ac mae’n serennu ‘brenin gitâr syrff yr Amazon’ fel y disgrifir Manoel Cordeira gan Ellis. Gyrrwr tacsi ydy Manoel yn y fideo, sy’n breuddwydio am ei gitâr yn ystod diwrnod arferol, ond yn ystod ei daith mae’n codi nifer o aelodau band Rio 18.
Fernando Neumayer a Luis Martino sydd wedi cyfarwyddo a chynhyrchu’r fideo.
Yn ogystal, mae manylion taith hydref Carwyn Ellis a Rio 18 wedi’i gyhoeddi, gyda dyddiadau yn Sbaen, Lloegr, Yr Alban a Chymru. Dyma restr y dyddiadau’n llawn:
4 Hydref – San Sebastian
5 Hydref – Madrid
10 Hydref – Caerdydd
11 Hydref – Manceinion
12 Hydref – Bangor
13 Hydref – Glasgow
….a dyma fideo ‘Unman’: