Mae fideo newydd sbon ar gyfer sengl ddiweddaraf Blodau Papur wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube Ochr 1 heddiw.
Rhyddhawyd ‘Yma’ ar label I KA CHING ar ddydd Gwener 31 Mehefin.
Dyma sengl ddiweddaraf y grŵp fu’n perfformio fel ‘Alys Williams a’r Band’ nes dechrau 2019. Rhyddhawyd eu sengl ddwbl gyntaf dan yr enw newydd, oedd yn cynnwys y traciau ‘Llygad Ebrill’ a ‘Tyrd Ata I’, reit ar ddechrau mis Ionawr.
Mae’r fideo wedi’i greu gan Iestyn Arwel ar gyfer Ochr 1, ac mae’n serennu yr actores Leah Gaffey.
Yr wythnos hon hefyd mae Blodau Papur wedi cyhoeddi taith 6 dyddiad ym mis Hydref fydd yn ymweld â’r lleoliadau canlynol:
4 Hydref – Theatr Derek Williams, Y Bala
5 Hydref – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
11 Hydref – Clwb Ifod Bach, Caerdydd
12 Hydref – Theatr Mwldan, Aberteifi
18 Hydref – Tŷ Pawb, Wrecsam
19 Hydref – Galeri, Caernarfon
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Yma’: