Gai Toms yn mynd ag Orig ar daith

Mae Gai Toms wedi cyhoeddi manylion taith hyrwyddo ei albwm diweddaraf, ‘ORIG’.

Rhyddhawyd ‘ORIG’, sef albwm cysyniadol sy’n deyrnged i’r reslwr poblogaidd o Gymro, Orig Williams, ym mis Gorffennaf eleni ac roedd ei berfformiad o’r albwm yn Nhŷ Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst yn un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod eleni’n ôl nifer.

Recordiau Sain sydd wedi rhyddhau’r casgliad newydd, ac mae’r albwm yn ddathliad o fywyd y cawr o Ysbyty Ifan, oedd yn adnabyddus yn y cylch wreslo fel El Bandito.

Mae’r albwm wedi’i recordio i gyfeiliant band cysyniadol Gai, sef Y Banditos, ac yn cynnwys cyfraniadau lleisiol merch Orig Williams, Tara Bethan.

Taith theatrau

Gan ystyried natur theatrig y sioeau hyrwyddo gan Gai hyd yma, a’r fideo ar gyfer y sengl ‘Y Cylch Sgwâr’, mae’n briodol mai taith theatrau sydd ar y gweill i hyrwyddo’r casgliad newydd.

Hyd yma mae 5 o sioeau wedi’u cadarnhau ym mis Tachwedd gan ddechrau yng Nghaernarfon ar 1 Tachwedd, cyn ymweld â Chaerfyrddin, Felinfach, Pwllheli a Dinbych.

Yn ôl pob tebyg mae rhai sioeau ar ôl i’w cadarnhau, gan gynnwys un ym Mhentref Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy, sef ble magwyd Orig Williams.

1 Tachwedd – Galeri, Caernarfon

14 Tachwedd – Y Lyric, Caerfyrddin

15 Tachwedd – Theatr Felinfach

16 Tachwedd – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

23 Tachwedd – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

*Dyddiadau i’w cadarnhau yng Nghaerdydd, Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan.