Gareth Bonello yn rhoi incwm Bandcamp i elusen

Oes ’na gerddor neisiach na Gareth Bonello?

Dyma brawf pellach o haelioni’r gŵr sydd hefyd yn cael ei adnabod fel The Gentle Good ar lwyfannau…

Mae’r cerddor o Gaerdydd yn rhoi incwm holl werthiant yr EP ‘Plygeiniwch!’ ar ei safle Bandcamp dros y Nadolig eleni i elusen digartrefedd The Wallich.

Rhyddhawyd y casgliad byr o dair cân Nadoligaidd yn wreiddiol yn 2014, ac mae’n draddodiad blynydol gan Gareth i roi’r incwm gwerthiant i elusen penodol.