Mae label Recordiau Ski-Whiff wedi rhyddhau sengl newydd gan y gantores ifanc magi.
magi. ydy enw llwyfan newydd y ferch o Lanrug, Magi Tudur.
Bu’n perfformio am rai blynyddoedd dan yr enw Magi Tudur, gan ryddhau senglau ac un EP o’r enw ‘Gan Bwyll’ yn 2016. Roedd Magi hefyd yn aelod o’r grŵp o Arfon, Y Galw, a ryddhaodd sengl fel rhan o gynllun Clwb Senglau’r Selar.
Penderfynodd newid ei henw perfformio yn ddiweddar, gan setlo ar ‘magi.’ ac fe ryddhaodd ei sengl gyntaf dan yr enw hwnnw ym mis Awst eleni, sef ‘Blaguro’.
Ddydd Gwener diwethaf, 13 Rhagfyr, fe ryddhaodd ei hail sengl fel magi. dan yr enw ‘Golau’.
Mae ‘Golau’ yn drac newydd seicadelig a hudolus sydd wedi’i gynhyrchu gan Ceiri Humphreys o’r grwpiau Ffracas a Pys Melyn. Roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru wythnos diwethaf.
Mae’r sengl allan yn ddigidol ar yr holl lwyfannau digidol arferol, ac mae addewid am fwy o ganeuon newydd gan magi. yn y flwyddyn newydd.
Ma hon yn tiiiwn bois bach: