Mae Ani Glass yn dweud ei bod wedi gorffen recordio ei halbwm cyntaf fydd yn cael ei ryddhau dan yr enw Mirores.
Yn anffodus, bydd rhaid i ni aros am beth amser eto cyn clywed record hir y gantoes bop electroneg, gyda’r dyddiad rhyddhau wedi’i gadarnhau ar 6 Mawrth 2020.
Er hynny, mae label Ani, sef Recordiau Neb, wedi bwydo’r awch am yr albwm newydd trwy gyfrwng ffilm ddogfen fer lle mae Ani’n trafod y record.
Diwrnod yng Nghaerdydd
Yn y ffilm mae Ani’n trafod y broses o greu’r albwm, a’r prif themau sy’n codi ar y casgliad newydd.
Wrth sgwrsio mae Ani’n datgelu bod dinas Caerdydd yn thema ganolog i’r albwm, ac ei fod yn gasgliad rhannol gysyniadol ynglŷn â diwrnod ym mhrif ddinas Cymru a’r profiadau mae rhywun yn ei gael.
Mae hefyd yn adlewyrchu ei phrofiadau hi’n cael ei magu yn y ddinas, ac mae Ani’n trafod rhywfaint ar hynny yn ffilm fer.
Mae’r gantores wedi bod yn gweithio ar y casgliad ers tua thair blynedd, ac mae wedi bod yn trafod y daith mae wedi bod arni yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cafodd y caneuon i gyd eu hysgrifennu, recordio a chynhyrchu gan Ani yn ei chartref, felly mae’n record bersonol iawn.
Arsylwi
Wrth drafod enw’r casgliad newydd gyda’r Selar, mae Ani wedi egluro ychydig am ystyr enw’r record, Mirores.
“Mirores yw fy enw barddol yng ngorsedd Cernyw, nes i ymuno yn 2013” meddai Ani.
“Mae’r enw yn gyfuniad o ddau air sef Miró, un o fy hoff artistiaid, a’r gair Cernyweg am edrych sef miras, felly ystyr Mirores yw rhywun sy’n arsylwi.”
Gwyliwch y ffilm fer isod i ddysgu mwy am y record