Does dim amheuaeth fod teimlad o rhyw symudiad rhwng yr hen a’r newydd ymysg prif grwpiau’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd.
Daeth Y Bandana i ben, mae Yws Gwynedd a Sŵnami ar hiatus, ac er fod cwpl o enwau mawr y blynyddoedd diwethaf yn dal i fod yn fywiog mae cyfle amlwg i fandiau ifanc wneud y cam o fod yn addawol, i fod yn brif grwpiau’r sin.
Un o’r enwau addawol yna sydd wedi creu ychydig o gynnwrf dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ydy Papur Wal, ac mae’n bosib iawn eu bod nhw ar fin sefydlu eu hunain o ddifri wrth iddyn nhw baratoi at ryddhau eu EP ddiwedd y mis.
Wythnos diwethaf, rhyddhawyd sengl gyntaf yr EP, ‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’, fel rhagflas ar gyfer y casgliad byr, Lle yn y Byd Mae Hyn? fydd allan ar Recordiau Libertino ar 29 Mawrth.
Er fod y grŵp wedi dechrau chwarae gyda’i gilydd ar ryw ffurf ers rhyw ddwy flynedd, mae’r gitarydd a phrif ganwr Papur Wal, Ianto Gruffudd, yn cydnabod eu bod nhw’n gallu cymryd sbel i wneud pethau!
“Mi wnaethon ni ddechrau chwara’ efo’n gilydd rhyw ddwy flynedd yn ôl, a rhyddhau tri demo yn haf 2017…ond ‘da ni wastad yn gneud pethau bach yn araf” meddai Ianto wrth sgwrsio gydag Y Selar.
“Nethon ni ddechrau fel tri, a nath Dewi [sydd hefyd yn Los Blancos] ymuno wedyn, ond rŵan mae o wedi gadael eto felly rydan ni nôl yn dri. Dyma ran o’r rheswm fod pethau wedi cymryd yn hir – oeddan ni’n ymarfer fel arfer fel tri, ond yn chwarae’n fyw gyda Dewi, ond rŵan rydan ni wedi setlo ar y leinyp.”
Y ddau aelod arall sy’n ffurfio’r triawd terfynol ydy Guto Rhys Huws (dryms) a Gwion Ifor (bass).
Ac yn wir, os oedd angen tystiolaeth bellach o arafwch gweithredu Papur Wal mae cip sydyn trwy archif gwefan Y Selar yn ein dangos ni’n adrodd ynglŷn ag EP ar y ffordd ganddyn nhw nôl ym mis Mai llynedd!
Recordio gyda Krissy
Ond mae popeth da yn werth aros amdano meddai rhywun rhywdro, ac yn sicr bydd pobl yn teimlo fod hynny’n wir ynglŷn ag EP cyntaf Papur Wal.
Bu’r grŵp yn gweithio gyda’r cynhyrchydd Krissy Jenkins, sy’n enwog am ei waith gyda’r Super Furry Animals, ond sydd hefyd wedi cynhyrchu deunydd diweddar Los Blancos.
“Mae ganddo fo stiwdio yn y lle ma, Grass Roots, yng Nghaerdydd sy’n rhyw fath o ganolfan gymunedol” eglura Ianto.
“Oedd y stiwdio yn y basement yno, a fama nath o recordio stwff Furrys a ballu, ond gath y lle ei fflydio oherwydd rhyw waith adeiladu drws nesaf a nath o symud y stiwdio fyny grisiau. Felly yn fano wnaethon ni recordio’r caneuon, a wedyn gwneud yr overdubs a ballu lawr yn y basement.”
Mae’r stori’n canu cloch, gan i Los Blancos sôn eu bod nhw wedi colli llawer o recordiadau o ganlyniad i lifogydd mewn stiwdio llynedd. Tydi hynny heb amharu’n ormodol ar yrfa Los Blancos, gyda’r grŵp yn sefydlu ei hunain o ddifri dros y chwe mis diwethaf, ac mae Ianto’n gobeithio bydd Papur Wal yn dilyn eu hesiampl wrth iddyn nhw godi momentwm dros y misoedd nesaf.
“Rydan ni’n mynd nôl i’r stiwdio at Krissy eto fis nesaf er mwyn recordio cwpl o double A sides – un Gymraeg ac un Saesneg, efo bwriad o ryddhau ym mis Ebrill neu Mai.”
“Ar ôl hynny rydan ni’n gobeithio mynd at rywun arall i recordio. Da ni’n teimlo fod sŵn y band wedi newid – ma sŵn yr EP a’r senglau yn siwtio Krissy, ond da ni’n meddwl fod y sŵn newydd yn gweddu’n well i rywun arall.”
“Dydan ni ddim yn gallu deud pwy eto, ond da ni’n gwbod pwy ydan ni isho” ychwanega Ianto.
Symudiad y sŵn
Mae hyn yn agoriad perffaith ar gyfer trafod sŵn Papur Wal, a dylanwadau’r grŵp yn benodol.
“Fyswn i’n deud bod ein sŵn ni’n nodweddiadol o stwff y 1990au ar yr EP, yn debyg iawn i lot o grwpiau eraill Libertino” meddai Ianto.
“Mae grwpiau fel Pavement, Dinosaur Jr a Grandaddy yn ddylanwad mawr – sŵn amrwd, ac open tunings…os ti’n gwrando ar yr EP ma pob cân efo tiwning gwahanol.”
“Dwi’n meddwl fod y sŵn yma wedi bod yn boblogaidd efo bandiau Cymraeg ers Ysgol Sul. Pan oeddan ni’n dechrau’r band, mi wnaethon nhw ddylanwadu’n fawr arnom ni.”
Rydan ni’n mynd ymlaen i drafod tipyn ar Ysgol Sul a’u dylanwad mawr amlwg ar symudiad grwpiau yn y De Orllewin a thu hwnt, er mai am gyfnod cymharol fyr y buon nhw’n weithgar.
Wrth drafod y ffordd mae’r band yn esblygu, dywed Ianto ei fod wedi bod yn gwrando tipyn ar stwff y 1970au yn ddiweddar – cerddoriaeth mwy popi, gyda harmonïau cryf. Felly ar ôl yr EP a’r ddwy sengl ddwbl, gallwn ni ddisgwyl cerddoriaeth sy’n pontio’r sŵn 70au a 90au yma, ond mae’n pwysleisio pwysigrwydd rhyddhau’r cynnyrch cyntaf yma i’r grŵp…
“Rydan ni wedi bod yn ista ar y caneuon yma ers yn hir, ac roedd angen i ni eu cael nhw allan o’r system rŵan” meddai.
Sefydlu
Wrth i ni siarad, mae sengl ‘Mae’r Dyddiau Gwell i Ddod’ allan ers wythnos ac wedi cael tipyn o sylw ar sawl cyfrwng.
“Mae hi wedi cael ymateb rili da, mae lot o bobl wedi bod yn dod fyny ata’i yn deud bod nhw’n licio hi.”
Ac mae’n ymddangos bod naratif cryf o blaid y triawd, a hynny’n arwydd da o ran cyflawni eu prif nod dros y cyfnod nesaf.
“Be ydan ni isho ydy sefydlu’n hunain go iawn fel un o fandiau’r sin, fel ma Los Blancos wedi gwneud, a Mellt. Trwy gael yr EP allan, fod o’n arwain at gael ein chwarae’n fwy ar y radio a mwy o sylw a gigs. Oedd jyst angen ei gael o allan yna.”
A fydd dim rhaid aros llawer hirach gyda’r dyddiad rhyddhau lai na phythefnos i ffwrdd bellach.
Mae Ianto’n datgelu fod ganddyn nhw gig lansio swyddogol wedi’i drefnu yn nhafarn yr Andrew Buchan ar nos Wener 5 Ebrill gyda Pasta Hull yn cefnogi.
“Mae’r mynediad am ddim, ond fyddwn ni’n gofyn am gyfraniadau achos ma angen i ni dalu Pasta Hull rhywsut!”
“Bydd ganddom ni grysau T ar werth, ac ella nwyddau arbennig eraill hefyd ond allwn ni ddim cadarnhau hynny eto. Ma mêt i ni’n gobeithio gwneud rwbath a mae’r lluniau’n edrych bach yn nyts.”
Ond mae cwpl o bethau eraill i edrych ymlaen atyn nhw cyn y dyddiad rhyddhau, gan gynnwys fideo ar gyfer trac ‘Yn y Weriniaeth Tsiec’ fydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfannau Ochr 1 ddydd Gwener nesaf. Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Billy Bagilhole, sydd hefyd yn gyfrifol am waith celf yr EP. O’r lluniau llonydd rydan ni wedi gweld, a’r clip byr isod, mae’r fideo’n mynd i fod yn un diddorol iawn!
Ac yn y cyfamser, fel trît arbennig i ddarllenwyr Y Selar, mae cyfle i chi ffrydio’r EP fan hyn, ar wefan Y Selar penwythnos yma cyn unrhyw le arall – pen-blwydd hapus a Nadolig Llawen bobl!
Geiriau: Owain Schiavone