Mae Gŵyl Focus Wales yn Wrecsam, a Neuadd Ogwen ym Methesda yn cyd-weithio gyda’r cerddor Gruff Rhys i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ym Methesda fis Medi eleni.
‘Ara Deg’ ydy enw’r ŵyl fach fydd yn cael ei chynnal rhwng 19 a 21 Medi eleni, a cyhoeddwyd rhestr ardderchog o artistiaid cerddorol wythnos diwethaf.
Ar nos Iau 19 Medi bydd perfformiad gan y gantores o Seland Newydd, Aldous Harding, gyda chefnogaeth gan Audiobooks, sef prosiect byw’r cynhyrchydd gwych o’r gogledd, David Wrench.
Ar nos Wener 20 Medi bydd band arbrofol o Wlad yr Iâ, Mum, yn perfformio caneuon o’u halbwm enwog Yesterday Was Dramatic – Today is Ok a ryddhawyd yn 2000. Bydd Jane Weaver yn eu cefnogi.
Yna ar nos Sadwrn 21 Medi bydd Gruff Rhys ei hun yn perfformio ochr yn ochr â’r cynhyrchydd o Dde Affrica, Muzi, gyda gwestai arbennig Bill Ryder-Jones.
Mwy toc!
“Gofynodd Neuadd Ogwen i mi chwara’ gig ac efallai drefnu ‘chydig o ddigwyddiada’ eraill” eglurodd Gruff Rhys wrth drafod yr ŵyl.
“….wele gyfres o gyngherddau – mwy i’w cyhoeddi toc, gan gynnwys sgwrs bach ac arddangosfa – da ni ‘di galw’r peth yn ŵyl – Ara Deg 19.”
Bydd yr holl sioeau sydd wedi’u cyhoeddi wythnos diwethaf yn cael eu cynnal yn Neuadd Ogwen, sydd ar Stryd Fawr Bethesda. Mae’r tocynnau ar gyfer y sioeau hyn ar werth ers dydd Mercher 19 Mehefin.