Mae’r gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio filiwn o weithiau ar Spotify, erbyn hyn wedi llwyddo i ddyblu’r ffigwr hwnnw.
Crëwyd hanes gan y band Alffa wrth i’r trac ‘Gwenwyn’ gyrraedd y ffigwr hudol o filiwn ffrwd ar 2 Rhagfyr 2018, ac mae llwyddiant a phoblogrwydd y trac ar Spotify wedi parhau ers hynny wrth iddynt ddyblu’r cyfanswm lai na deufis wedyn.
Roedd hanes Alffa a’r sengl ‘Gwenwyn’ yn stori newyddion Brydeinig ym mis Rhagfyr, gyda phapur newydd The Guardian ymysg y cyhoeddiadau amlwg i roi sylw i’w llwyddiant.
Mae’r ddeuawd o Lanrug yn paratoi i ryddhau eu sengl nesaf ar label Recordiau Côsh, gydag addewid o albwm i’w ryddhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Roedden nhw’n perfformio yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd nos Wener diwethaf – un o’u gigs gorau erioed yn ôl y band. Ac mae ganddyn nhw ddau gig arwyddocaol ar y gweill yn ystod mis Chwefror.
Byddan nhw ar lwyfan Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Wener 15 Chwefror, cyn perfformio yn The Lexington yn Llundain ar 27 Chwefror.
Mae fideo ‘Gwenwyn’ hefyd wedi bod yn hynod boblogaidd ers i’r band gyrraedd y miliwn…