Fideo’r sengl Cwîn gan Gwilym sydd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus dros gategori gwobr Fideo Cerddoriaeth Gorau Gwobrau’r Selar eleni.
Torrwyd y newyddion i Ifan Pritchard o’r grŵp gan neb llai na Gareth yr Epa ar sianel Hansh heno (6 Chwefror).
Roedd fideo i un o ganeuon eraill Gwilym, ‘Cysgod’, ar y rhestr fer a gyhoeddwyd ddechrau mis Ionawr, ynghyd â fideo ‘Gwres’ gan yr artist ifanc o Ddolgellau, Lewys.
Aled Rhys Jones oedd yn gyfrifol am waith cyfarwyddo’r fideo buddugol ar gyfer Ochr 1.
Bydd cyfle i weld Gwilym a Lewys yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar ar benwythnos 15-16 Chwefror. Bydd Gwilym yn cloi nos Sadwrn y Gwobrau (tocynnau wedi eu gwerthu i gyd) a Lewys yn perfformio ar y nos Wener (rhai tocynnau ar ôl ar hyn o bryd).
Am y tro, mwynhewch y fideo buddugol isod…