Mae Gwilym wedi rhyddhau’r sengl ‘Gwalia’ yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, 25 Hydref, ar label Recordiau Côsh.
Mae’r gân wedi’i hysbrydoli gan gytgan gofiadwy’r glasur Gymraeg, ‘O Gymru’, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan Rhys Jones.
Ond mae fersiwn Gwilym o ‘Gwalia’ yn gyfansoddiad newydd gan y band cyfoes sy’n cynnwys penillion modern ac alaw fachog nodweddiadol o’r band ifanc sydd yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.
Anthem Cwpan y Byd
Datblygwyd y syniad ar gyfer y gân yn wreiddiol ar y cyd gyda BBC Radio Cymru er mwyn llunio arwydd gân ar gyfer eu rhaglenni radio o Gwpan Rygbi’r Byd yn Siapan.
Dychwelodd Gwilym at y cynhyrchydd Rich James Roberts, a weithiodd gyda hwy ar eu halbwm cyntaf llynedd, er mwyn recordio’r gân dros ddiwrnod yn y stiwdio.
Gitarydd y grŵp , Rhys Grail, sy’n gyfrifol am waith celf y sengl – mae Rhys ar hyn o bryd yn ei flwyddyn olaf o astudio ffotograffiaeth yng Ngholeg Dinas Birmingham.
Roedd y grŵp yn teimlo fod yr amser yn briodol i ryddhau’r sengl ar ôl i Gymru guro Ffrainc wythnos diwethaf, gan sicrhau lle i’w hunain yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn erbyn De Affrica ddydd Sul diiwethaf (27 Hydref).
Y newyddion da pellach ydy fod Gwilym ar hyn o bryd yn y broses o ysgrifennu a recordio’r caneuon ar gyfer eu hail albwm.