Mae grŵp mwyaf poblogaidd Cymru, ar hyn o bryd, Gwilym, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 31 Mai.
‘\Neidia/’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan yn ddigidol ar label Recordiau Côsh, ac roedd Gwilym yn brysur yn hyrwyddo’r gân newydd yn Eisteddfod yr Urdd Bae Caerdydd wythnos diwethaf gan berfformio saith o weithiau yn ystod yr wythnos.
Roedden nhw hefyd yn perfformio yn Rali Ffermwyr Ifanc Ceredigion nos Sadwrn gan gloi wythnos brysur i’w grŵp.
Er ddim ond wir wedi ffurfio fel band ers rhyw ddwy flynedd, mae Gwilym eisoes wedi gwireddu sawl breuddwyd mewn cyfnod byr.
Mae hyn wedi cynnwys rhyddhau sawl sengl; rhyddhau albym hynod lwyddiannus yn 2018; ymddangos mewn rhai o wyliau mwyaf Cymru; a gweld eu caneuon yn cael eu ffrydio dros 400,000 o weithiau. Yn ogystal â hynny, Gwilym oedd band mwyaf llwyddiannus Gwobrau’r Selar eleni, gan gipio 5 o’r tlysau yn cynnwys cân orau, albwm gorau a band y flwyddyn.
Roedd eu sengl ddiwethaf ‘Tennyn’ yn ddilyniant naturiol o draciau’r albwm poblogaidd ‘Sugno Gola’, ond mae ‘\Neidia/‘ yn mynd a Gwilym i gyfeiriad ychydig yn wahanol gydag adlais o synnau pop / roc anthemig yr wythdegau.
O fis Mehefin ymlaen bydd y band yn teithio ledled Cymru mewn 27 gig gwahanol, yn cynnwys ymddangos fel prif fand Maes B ar nos Wener 9 Awst. I ddathlu rhyddhau’r sengl nos Wener diwethaf, roedden nhw’n cloi gig nos cyntaf erioed Eisteddfod yr Urdd ar nos Wener a gynhaliwyd ar Lwyfan Perfformio’r maes yng nghysgod y Senedd ym Mae Caerdydd – gwyliwch fideo byw ar Facebook Live Y Selar ohonynt yn perfformio ‘\Neidia/’ isod (gydag ymddiheuriad am safon y sain!)
Mae’r sengl newydd eisoes wedi profi’n boblogaidd gan groesi 1000 ffrwd Spotify gota 48 awr ar ôl ei rhyddhau, ac rydan ni’n disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi’n gyflym dros yr wythnosau nesaf.
Gwilym @ Steddfod yr Urdd 2019
Posted by Y Selar on Friday, 31 May 2019