Y grŵp o Ddyffryn Conwy, Serol Serol, ydy’r diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’.
Ers rhyw bum mlynedd bellach mae John a Kevs, aelodau’r grŵp amgen, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig.
Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, a nos Wener fe gyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai y grŵp pop gofodol, Serol Serol, oedd yr enillwyr eleni.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Mr Phormula (2018), Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Rhyddhaodd Serol Serol eu halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, ym mis Mawrth llynedd ac mae’n nhw’n cael eu gweld fel un o fandiau newydd mwyaf cyffrous Cymru.