Gwobr ‘platinum’ newydd i Alffa – dwy ohonyn nhw!

Roedd tipyn o sypreis i’r grŵp ifanc o Lanrug, Alffa, ar ddiwrnod cyntaf penwythnos Gwobrau’r Selar wrth iddyn nhw fod y cyntaf i dderbyn gwobr newydd i ganeuon Cymraeg sy’n cyrraedd miliwn ffrwd ar Spotify.

Gwobr newyd gan Y Selar ydy hon, ac fe’i noddir gan asiantaeth hyrwyddo a dosbarthu PYST.

Y syniad ydy efelychu’r gwobrau ‘platinum’ sy’n cael eu rhoi i albyms ar sail gwerthu nifer penodol o gopiau mewn gwahanol wledydd.

Cyrhaeddodd Alffa y penawdau newyddion ddechrau mis Rhagfyr wrth i’w sengl ‘Gwenwyn’ gyrraedd y ffigwr o 1,000,000 ffrwd ar Spotify – y gân uniaith Gymraeg gyntaf i wneud hynny. Erbyn hyn mae’r trac wedi dyblu’r ffigwr, gan groesi 2,000,000 ffrwd ddiwedd mis Chwefror.

“Roedd cyrraedd miliwn ffrwd yn dipyn o beth, ac yn torri tir newydd i gerddoriaeth Gymraeg” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Roedden ni’n awyddus i ddathlu llwyddiant Alffa fel rhan o Wobrau’r Selar eleni, a daeth y syniad o greu gwobr, tebyg i’r platinum award fyddech chi’n ei gael am werth 300,000 copi o albwm ym Mhrydain.”

“Gyda ffrydio digidol yn rheoli’r farchnad gerddoriaeth erbyn hyn, mae’n debyg y bydd gwobrau platinum yn dod yn bethau mwy prin, ond yn ein tyb ni, mae cyrraedd miliwn ffrwd yn rywbeth yr un mor arwyddocaol i gân Gymraeg. Y bwriad ydy cyflwyno’r wobr yma i bob cân Gymraeg sy’n cyrraedd y miliwn o hyn ymlaen.”

Dwy filiwn = dwy wobr

Gyda’r trac gwych bellach wedi croesi 2,000,000 ffrwd, roedd rhaid i’r Selar ail-feddwl y cynllun gwreiddiol…a chyflwyno dwy o’r gwobrau i Alffa ddoe!

“Roedd Alffa’n perfformio i dros 500 o blant cynradd Aberystwyth mewn gig ysgolion arbennig brynhawn Gwener, ac fe gyflwynwyd y wobr miliwn ffrwd iddyn nhw bryd hynny fel sypreis” meddai Owain Schiavone.

“Wrth gwrs, gan eu bod nhw bellach wedi croesi dwy filiwn ffrwd, maen ‘Gwenwyn’ bellach yn double platinum fel petai, ac roedd rhaid creu ail wobr iddyn nhw. Cyflwynodd Kev Tame o PYST hon iddyn nhw fel ail sypreis mawr y diwrnod yn gig Gwobrau’r Selar nos Wener.”

Sengl newydd

Roedd cyflwyno’r wobr newydd yn amserol ddydd Gwener wrth i Alffa ryddhau eu dilyniant i ‘Gwenwyn’ y diwrnod hwnnw – mae ‘Pla’ allan ar Recordiau Côsh, ac ar gael o’r llwyfannau digidol arferol ers bore Gwener, 15 Chwefror.

Wrth sgwrsio gyda hogia Alffa yn ystod y dydd ddoe, datgelodd Sion a Dion i’r Selar fod y sengl newydd eisos yn cael ymateb da, ac wedi croesi dros 2,000 ffrwd erbyn canol dydd.

Roedd Alffa yn amlwg wrth eu bodd a’r gwobrau:

Dili Pitt, o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sef yr artist sy’n gyfrifol am greu tlysau Gwobrau’r Selar eleni, sydd wedi creu’r gwobrau ‘miliwn ffrwd’ hefyd a hi gyflwynodd i wobr gyntaf i Alffa yn y prynhawn.

Mae’n fis mawr i Alffa o ran gigio hefyd – yn ogystal ag ymddangos ar lwyfan Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Wener, byddan nhw’n perfformio yn The Lexington yn Llundain ar 27 Chwefror.