Gŵyl Aber yn lansio bandiau newydd

Bydd cyfle cyntaf erioed i weld dau fand newydd sbon o Geredigion yn perfformio ar lwyfan Gŵyl Aber yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth fory, 5 Gorffennaf.

Mae Y Selar yn helpu trefnu’r ŵyl newydd sy’n cael ei chynnal eleni er mwyn codi arian at Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn Nhregaron. Ac wrth fynd ati i drefnu, sylweddolwyd nad oedd llawer o grwpiau newydd wedi dod o ar ardal Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf, gan benderfynu mynd ati i wneud rhywbeth ymarferol am y peth!

“Rydyn ni wedi sylwi nad oes nifer o fandiau ifanc wedi ffurfio yng Ngheredigion dros y blynyddoedd diwethaf, a phenderfynu ceisio gwneud rhywbeth am hynny” meddai Steff Rees o Cered, sy’n un o drefnwyr yr ŵyl.

“Mae traddodiad hir o fandiau’n ffurfio yn yr ardal, ac yn enwedig felly efallai yn ysgol Penweddig – ewch yn ôl rhyw bymtheg blynedd ac roedd aelodau Radio Luxembourg, The Poppies a Kenavo i gyd ym Mhenweddig.”

“Gan edrych ar ysgolion eraill y sir, roedd Java yn Ysgol Bro Pedr, Llanbed jyst cyn hynny ac aelodau Rasputin a Fenks yn Ysgol Aberaeron. Dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond Mellt sydd wir wedi dilyn y llinach yma ac efallai Roughion a Danielle Lewis i raddau ond mae rheiny wedi mynd ati ar ôl gadael yr ysgol mewn gwirionedd.”

“Gan fod ‘Eisteddfod gartref’ wastad yn ddigwyddiad arwyddocaol i fandiau, roedden ni’n gweld Gŵyl Aber fel cyfle i ysgogi bandiau ifanc i ffurfio gan obeithio datblygu erbyn yr Eisteddfod blwyddyn nesaf.”

Bydd y cyfle cyntaf i weld bandiau ifanc newydd sydd wedi ffurfio’n arbennig yn Ysgol Penweddig ac Ysgol Aberaeron ar lwyfan Gŵyl Aber nos fory.

Ar ôl hynny, bydd Y Selar a Cered yn cyd-weithio i gynnig cefnogaeth ac i fentora’r ddau grŵp, gan obeithio y byddan nhw’n datblygu ac yn perfformio ar lwyfannau’r Eisteddfod haf nesaf – gwyliwch y gofod!