Bydd y cynhyrchydd amlwg Ifan Dafydd yn rhyddhau fersiwn wedi’i ail-gymysgu o drac ‘Bendigeidfran’ gan Lleuwen ar 10 Mai.
Ysgrifennodd Lleuwen y gân yn wreiddiol i’w phlant y bore ar ôl refferendwm Brexit yn 2016, ac yn gynharach ym mis Ebrill enillodd y trac y wobr am y gân werin Gymraeg wreiddiol orau yng Ngwobrau Gwerin Cymru. Nawr mae Ifan Dafydd wedi torri, tynnu a throi’r gân yn ‘gampwaith’ electroneg sy’n cael ei rhyddhau ar label Recordiau Sain.
Mae’r ailgymysgiad yn enghraifft berffaith o waith Ifan Dafydd – curiadau anghyson a lleisiau sydd wedi’u gwthio cymaint fel nad ydych yn adnabod yr iaith na chwaith pwy sy’n canu. Ond pob hyn a hyn, gellir clywed llais nodweddiadol Lleuwen yn atseinio trwy guriadau a melodïau atmosfferig Ifan.
Bydd y sengl yn cael ei rhyddhau ar yr holl lwyfannau digidol arferol ar 10 Mai.
Mae’r dyddiad rhyddhau yn cyd-daro â thaith theatrau Lleuwen fydd yn dod i ben yn Pontio, Bangor ar 10 Mai. Dyma’r dyddiadau’n llawn:
3 Mai – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
8 Mai – Ffwrnes, Llanelli
9 Mai – Theatr y Werin, Aberystwyth
10 Mai – Pontio Bangor
Bydd Lleuwen hefyd yn perfformio mewn un gig ychwanegol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 9 Gorffennaf. Asiantaeth PYST sy’n trefnu ac yn hyrwyddo’r daith.
Cyhoeddwyd wythnos diwethaf bod Cywion Cranogwen, a’r grŵp gwerin addawol, Tant, yn cefnogi Lleuwen ar y daith.
Llun: Emyr Young