Mae’r cynhyrchydd electronig Ifan Dafydd wedi ail-gymysgu un o draciau albwm Joia! gan Carwyn Ellis a Rio 18 a rhyddhawyd yn gynharach eleni.
‘Olion’ ydy’r trac dan sylw, ac mae allan yn ddigidol ar Recordiau Côsh ers dydd Gwener, 6 Rhagfyr.
Mae Ifan Dafydd, a ddaeth i’r amlwg gyntaf fel aelod o’r band ffync / affrobît, Derwyddon Dr Gonzo, wedi bod yn ail-gymysgu traciau amlwg ers blynyddoedd bellach, gan ddod yn gynhyrchydd uchel ei barch wrth wneud hynny.
Er ei fod wedi gwneud enw i’w hun y tu hwnt i Gymru, mae ei angerdd tuag at gerddoriaeth Gymraeg yn amlwg gan mai ‘Olion’ fydd y trydydd trac Cymraeg iddo addasu yn ystod 2019 yn unig, gyda chynlluniau i wneud mwy yn 2020.
Cafodd ei fersiynau o ‘Bendigeidfran’ gan Lleuwen ac ‘I Dy Boced’ gan Thallo sylw eang, gan gynnwys gael eu chwarae ar BBC Radio 6 Music, yn parhau’r duedd o’r ddwy flynedd dwytha lle mae cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg wedi lledaenu dros y ffin a dros y byd.
Nid dyma’r tro cyntaf i Ifan Dafydd gyd-weithio gyda Carwyn Ellis – roedd y ddau’n rhan o sesiwn unnos BBC Radio Cymru ar ddiwedd Chwefror 2012 ar gyfer ei ddarlledu ar ddydd Gŵyl Dewi.
Wedi i Ifan glywed yr albwm Joia!, gofynnodd am yr hawl i ail-gymysgu ‘Olion’ a gyda chaniatâd Carwyn, dyma gydweithrediad arall bron i 8 mlynedd yn ddiweddarach.