Lansiad albwm cyntaf Kizzy Crawford

Mae Kizzy Crawford wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs i gyd-fynd â rhyddhau ei halbwm llawn cyntaf ym mis Tachwedd.

Bydd lansiad swyddogol yr albwm yn cael ei gynnal yn yng nghanolfan gelfyddydau Chapter yng Nghaerdydd ar 20 Tachwedd, ond yr wythnos cyn hynny bydd yn perfformio ym Mar Y Selar yn Aberteifi ar nos Iau 14 Tachwedd a Chaffi Blue Sky ym Mangor ar nos Wener 15 Tachwedd.

Bydd hefyd yn perfformio yn The Globe, Gelli Gandryll ar nos Sadwrn 23 Tachwedd.

Enw albwm cyntaf y gantores o Ferthyr ydy ‘The Way I Dream’.

Roedd Kizzy yn perfformio yng Ngŵyl Parti Ponty yn Ngholeseum Aberdâr nos Sadwrn diwethaf hefyd.