Lleuwen i gynnal taith theatrau fis Mai

A hithau newydd gau pen y mwdwl ar gyfres o gigs unigol acwstig o amgylch capeli Cymreig, mae Lleuwen wedi cyhoeddi manylion taith fer arall fydd yn dechrau ar 3 Mai.

Perfformiodd Lleuwen yn yr olaf o’i thaith capeli ym Mhenygroes bythefnos yn ôl ar 17 Chwefror,  gan ymweld â Llanymddyfri, Caerdydd ac Aberystwyth yn ogystal. Ond bydd naws y daith nesaf yn wahanol iawn wrth iddi ymweld â nifer o theatrau Cymru a hynny yng nghwmni band llawn y tro hwn.

Dyddiadau taith Lleuwen a’r Band:

3 Mai – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
8 Mai – Ffwrnes, Llanelli
9 Mai – Theatr y Werin, Aberystwyth
10 Mai – Pontio Bangor

Bydd Lleuwen hefyd yn perfformio mewn un gig ychwanegol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar 9 Gorffennaf. Asiantaeth PYST sy’n trefnu ac yn hyrwyddo’r daith.

Law yn llaw â rhyddhau manylion y daith theatrau, mae Lleuwen hefyd wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y gân ‘Cofia Fi’ sydd ar ei halbwm diweddaraf, Gwn Glân, Beibl Budr. Ffilmiwyd y fideo yn nhafarn y Tara Inn yn Ninas Brest yn Llydaw ac fe’i gyfarwyddwyd gan Miguel de Brito.

Rhyddhawyd albwm diweddaraf Lleuwen gan Recordiau Sain ym mis Tachwedd 2018 ac mae wedi bod yn destun canmoliaeth eang yng Nghymru a thu hwnt ers hynny.

Prif Lun: Emyr Young