Ar ôl llwyddiant ysgubol y ffilm yng Ngwobrau BAFTA Cymru wythnos diwethaf, fe fydd ffilm ddogfen gerddoriaeth ‘Anorac yn cael ei dangos yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol Womex yr wythnos hon.
Yn wreiddiol, roedd y cyflwynydd Huw Stephens wedi dweud wrth Y Selar ei fod yn pryderu na fydd modd rhyddhau’r ffilm yn rhyngwladol yn y dyfodol oherwydd cymhlethodod ynglŷn â’r hawliau cerddoriaeth tu allan i’r DU.
Bellach, dywed Huw a chyfarwydd wrth y ffilm, Gruff Davies, bod datblygiadau pellach yn golygu bod ‘Anorac’ i’w weld yn Womex wedi’r cyfan.
Dan groen cerddoriaeth Gymraeg
Enillodd y ffilm ddogfen gerddoriaeth Gymraeg bedair gwobr yn seremoni gwobrau BAFTA Cymru wythnos diwethaf.
Prosiect y cyflwynydd Huw Stephens a’r cyfarwyddwr Gruffydd Davies oedd ‘Anorac’. Mae’r ffilm yn dilyn Huw wrth iddo deithio trwy Gymru’n sgwrsio gyda cherddorion amrywiol er mwyn ceisio mynd o dan groen cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Dangoswyd y ffilm yn wreiddiol mewn nifer fach o sinemâu, cyn iddo gael ei ddarlledu ar S4C yn gynharach eleni ac roedd canmoliaeth eang iddi.
Llwyddiant BAFTA
Roedd y ffilm wedi’i enwebu ar gyfer 6 o wobrau BAFTA Cymru i gyd sef yn y categori ‘Golygu’; ‘Cyfarwyddwr: Ffeithiol’; ‘Nodwedd/Ffilm Deledu’; ‘Ffotograffiaeth: Ffeithiol’; ‘Cyflwynydd’; a ‘Sain’.
Cipiodd Anorac bedair o’r gwobrau hyn sef ‘Ffotograffiaeth’ (Gruffydd Davies a Joni Cray); ‘Sain’ (Jules Davies); ‘Golygu’ (Madoc Roberts); a ‘Cyflwynydd’ (Huw Stephens).
“Mae’n wych bod Anorac fel ffilm annibynnol iaith Gymraeg am gerddoriaeth wedi ennill cymaint o wobrau Bafta Cymru” meddai Huw Stephens wrth Y Selar wrth ymateb i’r gwobrau.
“Roedd Gruffydd Davies eisiau adlewyrchu’r gerddoriaeth anhygoel yma o Gymru dros y blynyddoedd, mewn ffordd fyddai’n dal dychymyg ffans ffilm, a phobl gyda diddordeb yn y gerddoriaeth. Ac mae wedi llwyddo!
Womex
Fel y bwriad gwreiddiol, bydd y ffilm yn cael ei dangos yng ngŵyl gerddoriaeth ryngwladol Womex yn Tampere, Y Ffindir yr wythnos hon – bydd i’w gweld yn y Llyfrgell, yn Neuadd Tampere, heddiw, fory a drennydd.
“Mae perfformiadau y cerddorion i gyd yn wych, a alla’i weld pobl yn gwylio Anorac fyddai ddim yn gwybod amdanynt cyn gwylio” ychwanegodd Huw.
Bydd cyfle arall i weld y ffilm ar S4C hefyd nos Sadwrn yma, 26 Hydref, am 23:30 ac ar Iplayer am gyfnod wedi hynny.