Roedd tipyn o lwyddiant i artistiaid Cymreig yn noson Wobrau Gwerin Radio 2 nos Fercher diwethaf, 16 Hydref.
Roedd nifer o artistiaid o Gymru wedi cyrraedd y rhestrau byr ar gyfer y gwobrau eleni gan gynnwys Gwilym Bowen Rhys, Catrin Finch, VRï a The Trials of Cato.
Roedd y grŵp ifanc, Tant, hefyd wedi eu dewis ar restr fer categori y Band Gwerin Ifanc Gorau.
Roedd llwyddiant pellach i ddau o’r uchod yn y seremoni nos Fercher wrth i Catrin Finch a Seckou Keita ennill y wobr am ‘Grŵp y Flwyddyn’, ynghyd â gwobr ‘Albwm y Flwyddyn’ i The Trials of Cato.