Løvgreen: Mae’r haul…ar y ffordd

Mae albwm newydd Geraint Løvgreen a’r Enw Da allan ar ffurf caled, ac ar y ffordd yn ddigidol ar 9 Awst.

‘Mae’r Haul Wedi Dod’ ydy enw record hir ddiweddaraf y cerddor bytholwyrdd, ac fe’i rhyddheir yn ddigidol gan label Recordiau Sain.

Mae Geraint yn un o gyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol ei genhedlaeth, ac yn adnabyddus am ei ganeuon dychanol crafog ar y naill law, a’i faledi hyfryd ar y llall.

“A does yna neb yr un fath â fo. Neb yr un fath am dynnu dagrau heb fod yn sentimental, neb yr un fath am wneud inni chwerthin heb fod yn wirion. A neb yr un fath am ei dweud hi fel y mae” meddai’r datganiad am yr albwm newydd.

Er cof am Iwan

Mae’r albwm yn cael ei gyflwyno er cof am y bardd, a basydd y grŵp, Iwan Llwyd, a dyma’r albwm cyntaf gan Geraint Løvgreen a’r Enw Da ers marwolaeth Iwan ym Mai 2010. Iwan ei hun sy’n gyfrifol am eiriau nifer o’r caneuon, ac mae’r gweddill gan Geraint, Myrddin ap Dafydd ac Ifor ap Glyn, rhai yn hanu o’r teithiau barddol a arloeswyd ganddyn nhw.

Roedd Geraint a’r Enw Da yn dathlu rhyddhau’r albwm gyda gig lansio yn Galeri, Caernarfon  nos Wener diwethaf, 21 Mehefin gyda Bwncath yn cefnogi.

Mae gwaith celf yr albwm wedi’i greu gan yr artist Sioned Medi Evans.  Daw Sioned o Ben Llŷn ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn mwynhau creu gwaith lliwgar a bywiog sy’n trafod golygfeydd o fywyd bob dydd.