Mae S4C wedi lansio eu cyfres a brand cerddoriaeth gyfoes newydd, ‘Lŵp’.
Darlledwyd y rhaglen gyntaf nos Iau diwethaf, yn bwrw golwg nôl ar gerddoriaeth a diwylliant cyfoes wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst ddechrau’r mis.
Bwriad y gyfres traws blatfform newydd ydy rhoi llwyfan ar y sgrin fach i ddiwylliant cyfoes amrywiol, ond perfformiadau cerddorol fydd calon cynnwys Lŵp yn ôl S4C. Meddai’r sianel bod disgwyl i’r rhaglenni fod yn ‘deithiau gweledol mewn i agweddau gwahanol o sîn gerddoriaeth newydd Cymru boed hynny’n ŵyl, thema benodol neu yn ffocws ar artist.’
Yn ogystal â cherddoriaeth bydd hefyd cyfle i drafod gwaith celf, ffotograffiaeth, ffilm a geiriau. Bydd cynnwys Lŵp yn cael ei gyhoeddi ar-lein, ar gyfryngau cymdeithasol ac ar deledu mewn cyfres o raglenni arbennig gydag un rhaglen arall o uchafbwyntiau.
Blas o’r Steddfod
Darlledwyd y rhaglen gyntaf nos Iau diwethaf, 22 Awst, gyda rhaglen ‘Lŵp: Gigs ‘Steddfod’ gan roi blas o ddigwyddiadau cerddorol yr Eisteddfod i’r gwylwyr yn ogystal â’r llu o ddigwyddiadau celfyddydol eraill oedd i’w gweld yn Llanrwst ddechrau fis Awst.
“Adlewyrchu y sîn gerddoriaeth Gymraeg yw’r bwriad,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.
“Mae cymaint yn digwydd o fewn y sîn ar hyn o bryd nid yn unig ym maes cerddoriaeth ond pob math o ddiwylliant celfyddydol.
“Mae na ddigwyddiadau cyffrous yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru ac mae na artistiaid talentog yn cyfrannu yn helaeth i’r ddarpariaeth. Mae S4C yn falch o allu rhoi llwyfan i hyn a chyfle i’r gwylwyr fwynhau’r bwrlwm sy’n digwydd ar draws Cymru.”
Cymryd lle Ochr 1
Bydd Lŵp yn cymryd lle’r brand sydd wedi bod yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth gyfoes ar S4C ers sawl blwyddyn, Ochr 1, gan gymryd pwyslais gwahanol iawn o ran arddull a darpariaeth a chynyddu faint o gerddoriaeth newydd fydd i’w weld ar S4C ar deledu ac ar-lein.
“Roedden ni’n gweld bwlch yn narpariaeth cerddoriaeth y sianel,” meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar lein S4C.
“Ac er bod cerddoriaeth wedi cael lle amlwg ar Hansh dros y blynyddoedd diwethaf, roedden ni’n gweld bod angen rhaglenni teledu mwy cyson i gyfleu’r hyn sy’n digwydd yn ystod y flwyddyn yn ogystal â chryfhau y cynnwys ar-lein.”
Mae modd gweld rhaglen gyntaf Lŵp S4C ar alw ar S4C Clic, BBC iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad Antena ar gyfer S4C.