Mark a Paul i dderbyn gwobr Cyfraniad Arbennig

Mae’n falch iawn gan Y Selar gyhoeddi mai Mark Roberts a Paul Jones sydd i dderbyn gwobr ‘Cyfraniad Arbennig’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.

Dros y tri degawd a mwy diwethaf, mae Mark a Paul wedi bod yn aelodau craidd o rai o fandiau mwyaf a phwysicaf Cymru, ac yn ddau o gerddorion mwyaf dylanwadol eu cenhedlaeth.

Daeth y ddau i amlygrwydd gyntaf fel aelodau o’r grŵp pync roc o Ddyffryn Conwy, Y Cyrff ar ddechrau’r 1980au.

Ynghyd â’r aelodau eraill – Barry Cawley (gitâr), Dylan Hughes (drymiau) a Mark Kendall (drymiau) – datblygodd Y Cyrff i fod yn un o fandiau mwyaf y sin gerddoriaeth Gymraeg erbyn diwedd y 1980au a dechrau’r 1990au gan ryddhau rhai o ganeuon mwyaf eiconig y cyfnod – ‘Hwyl Fawr Heulwen’, ‘Llawenydd Heb Ddiwedd’, ‘Pethau Achlysurol’ ac wrth gwrs yr anthem ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’ yn eu mysg.

Mae nodi 30 mlynedd ers rhyddhau ei cân enwocaf ym 1989 ydy un o’r pethau sy’n gwneud cyflwyno’r wobr eleni amserol iawn.

Chwalodd y grŵp ar ddechrau 1992, ond yn fuan wedyn roedd Mark a Paul wedi ymuno â Cerys Matthews, Owen Powell ac Aled Richards i ffurfio Catatonia. Roedd y grŵp, a’r ddeuawd, yn gwbl ganolog i’r symudiad Cŵl Cymru ar ddiwedd y 1990au gyda dau o’u halbyms, sef International Velvet a Equally Cursed and Blessed yn cyrraedd rhif 1 y siartiau albyms Prydeinig. Cyrhaeddodd y senglau ‘Mulder and Scully’, ‘Road Rage’ a ‘Dead From the Waist Down’ 10 uchaf y siartiau senglau Prydeinig hefyd.

Chwalodd Catatonia yn 2001, ond ers hynny mae Mark a Paul wedi gweithio ar sawl prosiect cerddorol gan gynnwys Sherbet Antlers gyda John Griffiths a Kevs Ford o Llwybr Llaethog, ac Y Ffyrc a ryddhaodd yr albwm ardderchog, Oes, yn 2006.

Ynghyd â Dafydd Ieuan a Dionne Bennett mae Mark Roberts wedi bod yn aelod o’r grŵp o Gaerdydd, The Earth, ac fe ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf, Oesoedd, dan yr enw Mr yn 2018.

Cyfraniad a dylanwad enfawr

A hwythau’n cydweithio ers cyhyd, mae’n amlwg fod Mark a Paul yn gwneud tîm da, ac yn ôl trefnydd Gwobrau’r Selar mae’n briodol eu bod yn derbyn y wobr eleni.

“Mae’n bleser mawr gan Y Selar, a gen i’n bersonol fel hogyn o Ddyffryn Conwy, gyhoeddi mai Mark Roberts a Paul Jones fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni” meddai Uwch Olygydd Y Selar, a threfnydd y Gwobrau, Owain Schiavone.

“Rhaid cyfaddef eu bod nhw wedi bod ar ein meddwl fel enillwyr posib ers i ni sefydlu’r wobr rai blynyddoedd yn ôl – does dim amheuaeth fod eu cyfraniad a dylanwad ar gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig wedi bod yn enfawr.

“Fe wnaethon nhw goncro Cymru gydag Y Cyrff, dod yn agos at goncro’r byd gyda Catatonia a dwi’n credu’n gryf bod Oesoedd gan Y Ffyrc yn un o albyms gorau’r degawd diwethaf, ond heb gael sylw teilwng.”

“Roedd cyflwyno’r wobr i’r ddau yn teimlo’n briodol eleni gan fod yr Eisteddfod yn dychwelyd i Lanrwst am y tro cyntaf ers 1989 – dyna pryd sefydlodd Y Cyrff eu hunain o ddifrif fel un o grwpiau mwyaf Cymru gan ryddhau record Yr Atgyfodi, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr anthem ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’.

“Mae hefyd yn teimlo’n amserol iawn gyda Mark yn rhyddhau ei albwm unigol, ac yn paratoi i berfformio’n fyw. Rydan ni bob amser yn dyfarnu’r wobr yma i artistiaid sydd wedi, ac yn parhau i fod yn weithgar.”

Mae cyfweliad gyda Mark ynglŷn â’i brosiect unigol yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.

Talu teyrnged

Bydd y wobr yn cael ei chyflwyno i Mark a Paul ar nos Wener Gwobrau’r Selar, sef 15 Chwefror. Cynhelir sgwrs gyda’r ddau yn Aberystwyth ar y noson, cyn i brif ddigwyddiad y Gwobrau ddechrau.

Er mwyn talu teyrnged i waith y ddeuawd, bydd artistiaid gig Gwobrau’r Selar ar y nos Wener yn perfformio cyfyr o un o ganeuon bandiau Mark a Paul fel rhan o’u set.

Dyma’r pedwerydd gwaith i’r wobr Cyfraniad Arbennig gael ei dyfarnu fel rhan o Wobrau’r Selar. Yr enillwyr blaenorol ydy Datblygu (2016), Geraint Jarman (2017) a Heather Jones (2018).

Mae tocynnau penwythnos a nosweithiau unigol Gwobrau’r Selar ar werth nawr, ond yn gwerthu’n gyflym!