Melys i ryddhau cynnyrch cyntaf ers 12 mlynedd

A hwythau heb ryddhau unrhyw gynnyrch newydd ers deuddeg mlynedd, mae Melys wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl newydd ddiwedd mis Chwefror.

Grŵp o Ddyffryn Conwy ydy Melys, yn cael eu harwain gan Andrea Parker sy’n canu, a’i phartner Paul Adams.

Roedden nhw’n un o’r bandiau hynny oedd reit yng nghanol bwrlwm ‘Cŵl Cymru’ ar ddiwedd y 1990au – efallai na wnaethon nhw lwyddo i gyrraedd yr un uchelfannau a Catatonia, Super Furry Animals a Gorky’s, ond roedden nhw’n bendant ar y rheng jyst o dan rhain gyda grwpiau fel Topper, Tystion a Big Leaves.

Rhyddhawyd eu stwff cynharaf nhw, gan gynnwys yr EP 4 trac yma ar label Ankst ond fe wnaethon nhw hefyd  ryddhau ar Arctic Records a’u lebel eu hunain, Sylem.

Fe wnaethon nhw ryddhau eu EP cyntaf, Fragile ym 1996 gyda llwyth o gynnyrch yn dilyn hynny, gan gynnwys yr albyms Rumours and Curses (1998), Kamikaze (2000), Casting Pearls (2003) a Life’s Too Short (2005). Roedd y DJ Radio 1 enwog John Peel yn gefnogwr brwd o’r band.

Nôl mewn iddi

Er nad ydyn nhw wedi rhyddhau unrhyw gynnyrch ers blynyddoedd, fe wnaethon nhw ddychwelyd i gigio fel rhan o lein-yp Gŵyl Sŵn yn 2016, ac maen nhw wedi bod yn gigio’n rheolaidd ers hynny, yn bennaf y tu hwnt i Glawdd Offa.

Bu Melys yn cefnogi’r grŵp amlwg The Wedding Present yn ystod mis Rhagfyr 2018 ac meddai yr aelodau wrth Y Selar eu bod wedi sylweddoli ar ôl hynny eu bod yn barod i recordio eto o ganlyniad i’r profiad hwnnw.

Enw’r sengl newydd ydy ‘Stay’ a bydd yn cael ei ryddhau ar 22 Chwefror.

Recordiwyd y trac gan y band eu hunain, sydd ddim yn syndod o ystyried fod Paul ac Adrea yn arfer rhedeg stiwdio Sylem ym Metws y Coed. Galwyd ar wasanaethau’r cynhyrchydd profiadol Gorwel Owen i roi help llaw i orffen y trac.

Y newyddion cyffrous pellach ydy eu bod nhw hefyd wrthi’n recordio albwm newydd gyda’r bwriad o’i ryddhau yn yr haf.

Dywed y band eu bod hefyd wedi cadarnhau nifer o ddyddiadau eraill yn cefnogi The Wedding Present ym mis Mehefin eleni.

Dyma Melys yn perfformio hedfan ar Sianel YouTube Ffarout – does dim manylion ynglŷn â lle a phryd oedd hwn, ond mae’n edrych fel y gallai fod o raglen Garej ar S4C. Ma hon yn tiwn…