Merched yn Gwneud Miwsig @ Caerdydd

Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn ôl ar ddiwedd y mis gyda digwyddiad yn Music Box Caerdydd ar 30 Tachwedd.

Prosiect gan Twrw, Clwb Ifor Bach ydy Merched yn Gwneud Miwsig, gyda’r nod o annog rhagor o ferched i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae’r sesiynau arbennig wedi eu cynnal sawl gwaith yn y gorffennol, yn bennaf yng Nghaerdydd ond hefyd yn Aberystwyth ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Mae llefydd yn rhad ac am ddim i ferched dros 16 oed, gyda chyfle i weithio ar ysgrifennu a pherfformio cerddoriaeth newydd gyda Heledd Watkins (HMS Morris) ac aelodau Adwaith.