Merched yn Gwneud Miwsig – Caerdydd

Bydd y digwyddiad ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ nesaf yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd y mis Mehefin.

Dyma fydd y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau sy’n ran o brosiect dan arweiniad Twrw,  Chlwb Ifor Bach a Maes B. Nod y cynllun ydy ceisio annog rhagor o ferched i fynd ati i fod yn weithgar yn y diwydiant cerddoriaeth, boed fel cerddorion, hyrwyddwyr neu mewn amryw ffyrdd eraill.

Cynhaliwyd y diwrnod Merched yn Gwneud Miwsig diwethaf yn Aberystwyth fis Ebrill, gyda gweithdai cerddoriaeth yn ystod y dydd a gig yn cynnwys rhai o artistiaid benywaith gorau’r sin gyda’r hwyr.

Un oedd yn ganolog i’r gweithgareddau yn Aberystwyth oedd Heledd Watkins o’r grŵp HMS Morris, a bydd Heledd yn gyfrifol am y gweithdai yn y digwydiad nesaf ar 29 Mehefin yn stiwdio Music Box yng Nghaerdydd. Mae’r grŵp Adwaith o Gaerfyrddin hefyd wedi bod yn gyfrannwyr amlwg i’r prosiect, a byddan nhw’n cynnal gweithdai ar y diwrnod hefyd.

Dywed y trefnwyr fod croeso i bobl sydd wedi bod i’r gweithdai yn y gorffennol, ac i bobl newydd hefyd.