Mae Clwb Ifor Bach wedi cyhoeddi manylion digwyddiad ‘Merched Yn Neud Gwallt ei Gilydd Miwsig’ fydd yn cael ei gynnal ym mis Ebrill.
Cynhelir y digwyddiad yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 6 Ebrill.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys gweithdy am ddim yn ystod y prynhawn gyda Heledd Watkins (HMS Morris) ac Ani Saunders (Ani Glass). Bydd gig yn y nos yn dilyn gydag Ani Glass unwaith eto, ac Adwaith hefyd yn perfformio.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o sesiynau ‘Merched yn Neud Miwsig’ yn dilyn dau ddigwyddiad tebyg a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a Chaernarfon ym mis Mehefin llynedd.
Cynyddu nifer artistiaid benywaidd
Mae’r prosiect yn cael ei redeg ar y cyd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach, ac mae’n gynllun arbennig ar gyfer merched sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth. Y syniad ydy rhoi cyfle i ferched rhwng 16 a 25 oed drafod syniadau a meithrin sgiliau newydd, gyda’r nod o ysbrydoli a dod a thalent newydd i lwyfannau cerddoriaeth Cymru.
“Mae ‘na bryder ers peth amser bod prinder merched yn y sîn, ac roedden ni ym Maes B yn teimlo bod angen cymryd camau i newid hyn” meddai Guto Brychan, trefnydd Maes B, wrth drafod y cynllun llynedd.
“Dyma’r digwyddiad cyntaf o’i fath, a’r bwriad yw ceisio cynyddu’r nifer o artistiaid a bandiau benywaidd sydd ar gael i chwarae ar lwyfannau Cymru, ac ysbrydoli merched ifanc i fynd ati i gael yr hyder i ddilyn ôl traed bandiau gwych y sîn, fel Serol Serol ac Adwaith, a dechrau bandiau eu hunain”.
Mae’r cynllun yn gyfle gwych i ddysgu mwy am sut i gynnal gigs, sut i fynd ati i recordio, DJio neu ddylunio posteri. Mae hefyd yn gyfle arbennig i gyfarfod merched eraill sydd â’r un diddordebau, a chreu rhwydwaith o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol.