Mr Phormula – Lone Ranger hip-hop Cymraeg?

Mae Mr Phormula wedi rhyddhau EP rhad ac am ddim i’w ffrydio a lawr lwytho ar y llwyfannau digidol arferol.

Stranger ydy enw’r casgliad byr aryddhawyd yn swyddogol ar 12 Ionawr ac mae’n cynnwys 5 trac sef ‘Teithiau’, ‘Ego Above’, ‘Y Dieithryn’, ‘Man of No Origin’, ‘Mr Phormula – Cau, Close’.

Mae thema a theimlad clir i’r EP, a hwnnw’n thema gorllewin gwyllt. Mae’r casgliad byr yn cynnwys sawl cyfeiriad at gowbois, ond mae Mr Phormula yn cyfuno hyn gyda nifer o brofiadau personol i greu casgliad sydd â neges glir i’r cerddor hip hop.

Teimlo fel ‘lone ranger’

Bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwybod mai Mr Phormula ydy enw llwyfan y rapiwr a bît-boscsiwr Ed Holden, sy’n gyn-aelod o Pep Le Pew, Genod Droog ac Y Diwygiad.

Dywedodd Ed wrth Y Selar fod dilyn y thema cowboi wrth ryddhau’r EP yn un bwriadol.

“Y rheswm dwi wedi mynd am hyn [y thema] ydy’r ffaith mai felna dwi’m teimlo yn y diwydiant cerddoriaeth weithiau – fel lone ranger” eglura Ed.

“Felly mae’r caneuon i gyd efo themâu sy’n delio efo’r ffordd dwi’n trin y diwydiant. Yn enwedig ‘Ego Above’ – ma hwna’n ganlyniad i brofiadau personol lle dwi wedi gweld artistiaid yn trio gwthio eu hunain o flaen pawb gan fod yn cocky – mae’n gas gen i hynny.”

Dywed fod ‘Cau, Close’ yn dod o brofiad personol hefyd lle mae wedi gweld plant yn gwneud hwyl am ei ben gan feddwl ei fod yn ‘rapper’ yn yr ystyr a delwedd Americanaidd poblogaidd.

“Digwydd bod mewn i fiwsic hip-hop sydd efo delwedd bling ac ati ydw i, ac mae’n biti fod fideos miwsic Americanaidd ar YouTube yn cael cymaint o effaith ar bobl ifanc. Ti’n clywed ‘rapper’ a meddwl am y bling, caps a champagne.”

“Dyma be o’n i’n meddwl hefyd pan o’n i’n ifanc, tan i mi ddysgu’n iawn am hip-hop.”

Dylanwad darllen

Mae’r trac ‘Y Dieithryn’ hefyd yn sôn am ei deimlad o fod yn lone ranger, ond hefyd yn dwyn dylanwad o’i hoff nofelau.

“Dwi wedi cael ysbrydoliaeth gan fy hoff gyfres o lyfrau, sef ‘The Dark Tower’ gan Stephen King. Mae’r prif gymeriad, Roland, yn gowboi apocalyptig sy’n unigol ac yn unigryw.”

Wrth drafid yr EP mae Ed yn datgelu mai pedwerydd trac y casgliad, ‘Man of Origin’ ydy ei ffefryn…

“Mae’n sôn am gowboi neu gerddor sydd wedi cael ei saethu ond sy’n dod yn ôl gyda pŵer anhygoel, gan sylwi ei fod yn immortal.  Dwi’n teimlo fel hyn yn y diwydiant weithiau – mae pobl yn cnocio chdi lawr ond ti’n gorfod dod yn ôl!”

Mae EP Stranger allan rŵan ar Spotify, ac mae modd gwrando ar y traciau ar Soundcloud Mr Phormula…neu jyst cliciwch ‘chwarae’ isod!