Yn dilyn gŵyl Focus Wales ym mis Mai, roedd rhywun yn synhwyro rhyw buzz bach tawel ynghylch ag un o’r artistiaid newydd oedd yn perfformio yn benodol.
Roedd enw Melin Melyn wedi ymddangos ar gyfryngau cymdeithasol ers dechrau’r flwyddyn, ac ychydig o draciau wedi eu llwytho i Soundcloud yn fuan wedyn gan roi awgrym o brosiect bach diddorol, cwyrci oedd ar y gweill.
Daeth llond llaw o gyhoeddiadau gigs wedyn, gan gynnwys Twrw Trwy’r Dydd yng Nghlwb Ifor Bach, un o gigs achlysurol Clwb Ifor yn The Lexington yn Llundain ac y gig cyntaf hwnnw yng Nghymru fel rhan Focus Wales a greodd argraff ar sawl un o’r miwsôs oedd yno.
“Mae’n ŵyl grêt” meddai Gruff Glyn, ffryntman lliwgar Melin Melyn wrth i mi sôn am y ganmoliaeth i’r band ro’n i wedi clywed yn dilyn Focus Wales.
“Mae safon y gerddoriaeth yn rili dda… artistiaid fel Audiobooks, Cate Le Bon a BC Camplight…ond fwy na dim oedd o’n gyfle grêt, es i i’r holl conferences a ballu, a chwrdd â labeli, promoters a bandiau eraill a chael amser grêt…jyst bod fi a Will wedi gorfod rhannu stafell mewn student diggs oedd yn boiling!”
Will ydy Will Llywellyn Barratt, gitarydd y band sydd o Tunbridge Wells ac yn dysgu Cymraeg – yn ôl Gruff mae Will rif 15 yn y byd ymysg y dysgwyr Cymraeg ar Duolingo!
Cyfarfu’r ddau mewn caffi lle’r oedden nhw’n gweithio gyda’i gilydd yn Llundain. Daw Gruff yn wreiddiol o Gaerdydd, ond mae bellach yn byw yn Llundain ers sawl blwyddyn. Dau Gymro arall sy’n cwblhau lein-yp y grŵp sef Garmon Rhys ar y bas, a ddaw’n wreiddiol o Ddinbych, ac ar y dryms, Cai Dyfan o Lanrug fydd yn gyfarwydd i sawl un mae’n siŵr fel drymiwr yr anhygoel Derwyddon Dr Gonzo.
Dylanwad dwy ddinas
Roedd eu gig cyntaf yn Llundain ym mis Mai, jyst cyn y gig yn Focus Wales. Y gred gyffredinol ydy fod sin fyw gref a gigs di-rif i fandiau yn Llundain, a dywed Gruff fod llawer o gyfleodd iddyn nhw berfformio ym mhrif ddinas Lloegr, ond eu bod nhw hyd yma wedi llwyddo i osgoi arfer llai cadarnhaol i’r sin fyw yno.
“Un peth rydan ni’n cymryd balchder ynddo fo y dydan ni erioed di chwarae gig pay to play.
“Mae ‘na ddiwylliant dwi’n meddwl sydd ddim yn neis lle mae ‘na fandiau sy’n gorfod talu am y fraint i chwarae mewn gigs a dwi’m yn meddwl dylsa fo weithio fel’na.
“Rydan ni wedi chwarae ambell gig yma, ac mae ‘na gymaint o gyfleodd i fynd i weld gigs yma hefyd. Ond mae o’n grêt i chwarae nôl adra yng Nghaerdydd hefyd achos dwi’n dal i feddwl bod yna gymuned gerddorol wych yna.”
Mae hynny’n dod a ni’n daclus at gig nesaf y band, sef hwnnw yng Ngŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wythnos nesa’. Bydd Melin Melyn yn perfformio yn yr ŵyl aml-leoliad ar ddydd Sul 20 Hydref, a hynny yn The Old Market Tavern am 17:00.
Ag yntau wedi’i fagu yn y brifddinas, wrth sgwrsio mae Gruff yn amlwg yn edrych ymlaen at berfformio yng ngŵyl gerddoriaeth bwysicaf Caerdydd.
“O’n i’n arfer gyrru lawr o Lundain i Sŵn pan nath o ddechrau ac roedd o’n bendant yn uchelgais i chwarae yno rhyw ddydd, felly rydan ni’n rili cyffrous i gael chwarae yno ar yr un rhestr â bandiau rydan ni’n rili licio.”
Bydd cyfleoedd pellach i weld y grŵp yn fyw dros yr wythnosau nesaf – maen nhw’n cefnogi Penelope Isles o label Bella Union yng Nghaerfaddon yn fuan, a newydd gadarnhau gig gyda band o’r enw Golden Dregs ar 23 Tachwedd yn Ten Feet Tall, Caerdydd.
“Band gwych o Gernyw, tebyg i Silver Jews, Timber Timber, Leonard Cohen…” eglura Gruff.
Rhoi sioe
O’r adroddiadau am eu setiau byw hyd yma, gall unrhyw un sy’n mynd i weld Melin Melyn yn Sŵn ddisgwyl sioe lwyfan drawiadol a lliwgar.
Dywed Gruff eu bod nhw fel band yn gweld pwysigrwydd mewn cynnig rhywbeth gwahanol i gynulleidfa eu gigs.
“Da ni gyd yn grediniol bod hi’n bwysig iawn cael rhyw fath o sioe…dwi’n mynd i weld bandiau weithiau lle dwi isio gweld rhywbeth gwahanol amdanyn nhw, jyst rhyw fath o gymeriad.”
Mae Gruff yn egluro sut mae defnyddio’r sax – nad oedd wedi chwarae ers tua 15 mlynedd nes penderfynu mewn un ymarfer y byddai’n swnio’n dda – ar un o’r caneuon, yn rhyw fath o achlysur yn eu set byw, a’i fod yn gwisgo’n anarferol ar gyfer eu gigs hefyd.
💛 4:30pm 💛 pic.twitter.com/zl9BmTsCTb
— Melin Melyn (@melin_melynband) May 26, 2019
“Dwi’n licio gwisgo rhyw siwt, ac mae o’n bwysig gwneud rhyw fath o sioe. Dwi’n teimlo fel bod ni gyd yn dod a rhyw fath o gymeriad…dim bod fi in character, ond os fyswn i’n canu mewn angladd neu briodas, fysa fo’n codi lot mwy o ofn arna’i na mewn gig o flaen cannoedd o bobl achos dwi’n gallu rhoi rhyw fath o fasg ymlaen.”
“Does ‘na’m unrhyw le lle dwi’n hapusach, mae o’n gymaint o hwyl bod fyny yna gyda dy ffrindiau yn chwarae cerddoriaeth rydach chi wedi creu gyda’ch gilydd, ac os ydy pobl yn mwynhau o mae hynny’n rili cyffrous.”
Rhaglenni plant seicadelig
Mae pob gohebydd cerddorol yn euog o geisio diffinio sŵn bandiau wrth eu trafod, ond y gwir plaen amdani gyda Melin Melyn ydy bod hynny’n anodd os nad amhosib, ac mae Gruff yn barod iawn i ategu hynny.
“Dwi’n ffeindio’r cwestiwn yn anodd pan ma pobl yn gofyn unai ‘pa genre ydach chi’ neu ‘pa fandiau da chi’n swnio fel’.
“Ma’n rili diddorol mynd i gigs a phobl yn deud, ‘o, da chi’n swnio fel…’ ac wedyn meddwl ‘o ia, ro’n i’n gwrando ar y bandiau yna yn y cyfnod ro’n i’n sgwennu’, neu ‘dwi’n huge fan o’r band yna’, neu hyd yn oed ‘dwi erioed wedi clywed am y band yna!’”
“Fy hoff un i dwi’n meddwl ydy pan nath Clwb [Ifor Bach] roi ni lawr fel ‘childrens psychadelic TV show’.”
Anodd dadlau gyda’r disgrifiad hwnnw – fel rhaglenni plant yn aml iawn, dydach chi byth yn siŵr beth sy’n dod nesaf gyda Melin Melyn, ac yn sicr maen nhw’n lliwgar ac yn hwyliog.
Gallech chi hefyd ddisgrifio eu geiriau fel rhai ‘doniol’, ond wrth drafod rhai o’i hoff artistiaid – Kevin Ayres, Syd Barrett, Robert Wyatt, Gorky’s, Ffa Coffi Pawb a Gruff Rhys yn eu mysg – mae Gruff yn awgrymu mai rhyw hiwmor tywyll ydy hwn.
“Dio’m yn gerddoriaeth ddoniol. Ma pobl yn deud ‘o, ma’ch lyrics chi’n ddoniol’, mae ‘na ryw hiwmor tu ôl iddo fo ond ma’r pynciau’n aml yn bethau sydd ddim yn ddoniol.”
Yn sicr mae’n anodd categoreiddio eu cerddoriaeth, ac mae’r caneuon hyd yma’n gwahaniaethu tipyn o ran sŵn.
Caneuon newydd
Y newyddion da ydy y gallwn ni brofi mwy o’r amrywiaeth sydd ganddyn nhw i’w gynnig yn fuan gan fod y band wedi bod yn recordio tair cân newydd yn stiwdio Tom Rees o’r grŵp Buzzard Buzzard Buzzard gyda Dylan Morgan o Boy Azooga dros yr haf.
Mae’r gyntaf o’r rhain allan wythnos nesaf ar 18 Hydref, mewn pryd i ŵyl Sŵn – ‘Mwydryn’, y gân Gymraeg gyntaf iddyn nhw ryddhau’n swyddogol. Bydd cyfle cyntaf i glywed y sengl ar raglen radio arbennig gan Lisa Gwilym am Sŵn ar 17 Hydref.
Does dim cynllun pendant ar gyfer y ddau drac arall ar hyn o bryd. Mae ‘Mwydryn’ yn cael ei rhyddhau’n annibynnol, ac ar hyn o bryd mae Melin Melyn yn mwynhau’r rhyddid sydd ganddyn nhw.
Wedi dweud hynny mae Gruff yn datgelu bod tipyn o ddiddordeb wedi bod gan labeli ynddyn nhw, a ddim yn diystyru ymuno â label yn y dyfodol agos.
“Ar hyn o bryd rydan ni’n mwynhau gwneud pethau ffordd ni’n hun, ond ‘da ni’n agored i syniadau. Da ni’n mwynhau bod yn annibynnol ar hyn o bryd, ond yn y dyfodol pwy a ŵyr.
“Mae ‘na labeli wedi dod atom ni a gofyn a oes gyda ni ddiddordeb, ond rydan ni isio cymryd ein hamser a gwneud be sy’n iawn i ni.”
Ar hyn o bryd, mae’r grŵp heb os yn llwyddo i dorri cwys eu hunain yn ddigon llwyddiannus a hiroes i hynny.